Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud ei fod yn poeni am effaith yr holl sôn am ddyfodol ei is-hyfforddwr ar y garfan.
Does dim sicrwydd ar hyn o bryd y bydd Shaun Edwards yn aros gyda Chymru y tu hwnt i Gwpan y Byd.
Ac mae Warren Gatland yn dweud y gallai’r sefyllfa dynnu sylw’r chwaraewyr oddi ar eu paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth yn Siapan yn ddiweddarach eleni.
Mae’r Sais wedi cael cynnig estyniad i’w gytundeb, ond mae e hefyd wedi cael ei gysylltu â sawl swydd wahanol gan gynnwys Lloegr a Ffrainc.
Mae e eisoes wedi gwrthod cynnig i ddychwelyd i dîm rygbi’r gynghrair Wigan, lle’r oedd yn chwaraewr, er i’r clwb gyhoeddi haf diwethaf ei fod e wedi cael ei benodi’n brif hyfforddwr.
Dydy hi ddim yn glir, felly, a fydd e’n rhan o dîm hyfforddi Wayne Pivac, y prif hyfforddwr newydd, erbyn diwedd y flwyddyn.
‘Wedi diflasu’
“Rhaid i fi fod yn onest a dweud fy mod i wedi diflasu o glywed amdano fe yn y papurau newydd bob dydd,” meddai Warren Gatland ar ôl cyhoeddi’r garfan a fydd yn ymarfer ar gyfer Cwpan y Byd.
“Galla i adael i’r peth fynd am y tro oherwydd dydyn ni ddim yma [ar safle hyfforddi’r tîm] fel carfan.
“Ond os yw’n para lawer hirach, yna bydda i’n siarad â phobol i roi trefn ar bethau oherwydd mae yna ddigon o siarad a sïon wedi bod.
“Mae angen i rywun wneud penderfyniad.”
Mae e’n galw ar Shaun Edwards i wneud penderfyniad yn gyflym.
“Dw i’n meddwl bod rhaid i Shaun benderfynu i ble mae e’n mynd,” meddai. “Roedden ni i gyd yn credu bod Shaun wedi cytuno i delerau Wigan, ac mae hynny wedi newid, rywsut.
“Mae’n fater o aros ar hyn o bryd, a chawn ni weld beth fydd ei benderfyniad.”
Mae Wayne Pivac eisoes wedi penodi Stephen Jones yn hyfforddwr yr ymosod, a Jonathan Humphreys yn hyfforddwr y blaenwyr.