Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud na fu’r tîm yn ddigon da y tymor hwn i ennill dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair.
Mae’n fathemategol amhosib i sicrhau’r dyrchafiad erbyn hyn, ar ôl gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Hull yn eu gêm ddiwethaf.
Daeth y canlyniad hwnnw er iddyn nhw ennill chwe gêm allan o’r saith ddiwethaf, ar ôl rhediad digon siomedig.
Maen nhw’n herio Derby yn Stadiwm Liberty heno (nos Fercher, Mai 1), wrth i’r ymwelwyr frwydro am y safle olaf ar gyfer y gemau ail gyfle.
“Dydyn ni ddim wedi bod ynddi drwy gydol y flwyddyn,” meddai Graham Potter.
“Ry’n ni wedi gwella dros y ddau neu dri mis diwethaf ac ar ôl y brêc rhyngwladol diwethaf, ry’n ni wedi cymryd cam mawr ymlaen, ond dydyn ni ddim wedi bod yn ddigon da i fod ynddi.
“Pe baen ni wedi cael ambell i fuddugoliaeth fan hyn a fan draw, iawn, ond y reality yw nad ydyn ni wedi gwneud hynny.
“Rhaid i ni edrych ar y darlun ehangach a sut mae’r tîm wedi datblygu, a sicrhau ein bod ni’n parhau â’r broses.”