Scarlets 42–0 Zebre
Mae gobeithion y Scarlets o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn fyw o hyd diolch i fuddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Zebre yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.
Sgoriodd Bois y Sosban chwe chais mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Eidalwyr ar Barc y Scarlets.
Daeth cais cyntaf y tîm cartref wedi deuddeg munud, yr wythwr, Uzair Cassiem, yn hyrddio drosodd wedi sgrym bump gref.
Un cais arall a gafywd yn yr hanner cyntaf, Hadleigh Parkes yn croesi ychydig funudau cyn yr egwyl, 14-0 y sgôr wrth droi.
Arhosodd Zebre ynddi i raddau tan hanner ffordd trwy’r ail hanner ond aeth y Scarlets â’r gêm o’u gafael gyda phedwar cais arall yn y chwarter olaf.
Plymiodd Johnny McNicholl drosodd yn gelfydd yn y gornel ar gyfer y trydydd cyn i Cassiem sicrhau’r pwynt bonws gyda’i ail ef o’r noson.
Ychwanegodd Kieran Hardy a Ioan Nicholas ddau arall yn y munudau olaf i roi gwedd llawer mwy cyfforddus i’r sgôr terfynol, 42-0.
Mae’r Scarlets yn aros yn bumed yn nhabl adran B y Pro14 er gwaethaf y fuddugoliaeth, bwynt y tu ôl i Gaeredin gydag un gêm o’r tymor arferol yn weddill. Rhaid gorffen yn y pedwerydd safle i sicrhau gêm ail gyfle i gyrraedd Cwpan Pencampwyr Ewrop.
.
Scarlets
Ceisiau: Uzair Cassiem 13’, 73’, Hadleigh Parkes 36’, Johnny McNicholl 60’, Kieran Hardy 75’, Ioan Nicholas 77’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 13’, 37’, 61’, 73’, 76’, 77’
.
Zebre
Cardiau Melyn: Marco Cicciolli 34’, George Biagi 70’