Sam Warburton (You Tube - Undeb Rygbi Cymru)
Capten Cymru sydd wedi ei ddewis yn chwaraewr gorau ei grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Fe gafodd Sam Warburton ei ddewis o flaen enwogion De Affrica a rhai o chwaraewyr addawol y gwledydd llai.

Roedd yr asgellwr 19 oed, George North, a’r wythwr 20 oed, Toby Faletau, hefyd wedi cael eu henwi ar y rhestr fer am y teitl yng Ngrŵp D.

Un o oreuon y byd – Gatland

Ond fe gafodd Sam Warburton ei ddewis oherwydd pwysau bod yn gapten a phwysau ei safle, yn flaenasgellwrh agored.

Ddechrau’r gystadleuaeth, roedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi cymharu’r chwaraewr 22 oed gyda goreuon y byd yn y safle, gan gynnwys Richie McCaw, capten Seland Newydd.

Mae Warburton wedi disgleirio wrth frwydro am y bêl mewn sgarmesoedd.