Nigel Owens
Mae un o chwaraewyr Samoa wedi cael ei atal o’r gêm tros dro ar ôl cyhuddo’r dyfarnwr Cymraeg, Nigel Owens, o fod yn “hiliol”.

Doedd Eliota Sapolu ddim wedi dod i wrandawiad disgyblu yn ei erbyn yn gynharach heddiw ac fe gafodd ei wahardd o bob agwedd o’r gêm nes i’r achos gael ei glywed.

Mewn neges drydar, roedd wedi cyhuddo Nigel Owens o hiliaeth ar ôl iddo anfon un o chwaraewyr Samoa o’r maes yn eu gêm agos a thyngedfennol yn erbyn De Affrica.

Ond mae Fuimaono wedi parhau i anfon negeseuon yn ymosod ar y penderfyniad – gan ddweud nad oedd yn gwybod am amser y gwrandawiad – ac yn awgrymu y dylai’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol gusanu ei ben-ôl.

‘Annhegwch’

Ynghynt yn y gystadleuaeth, cyn gêm Cymru a Samoa, roedd wedi cyhuddo’r Bwrdd o annhegwch wrth roi wythnos i’r gwledydd mawr ddod tros eu gêmau a dim ond tri neu bedwar niwrnod i’r gwledydd llai.

Fe ddaeth ei ymosodiad diwetha’ ar ôl i Samoa golli o 13-5 yn erbyn De Affrica, gyda Nigel Owens yn anfon y cefnwr Paul Williams o’r maes ar argymhelliad llumanwr.

Ond roedd y rhan fwya’ o sylwebyddion yn credu fod y penderfyniad yn un caled, gan ddweud mai gwthio yn hytrach na tharo a wnaeth Williams.

Roedd cannoedd o negeseuon cas hefyd wedi eu rhoi ar dudalen Nigel Owens ar wefan gymdeithasol.

Cefndir

Pe bai Samoa wedi ennill y gêm yn erbyn De Affrica fe fydden nhw wedi cynyddu’r pwysau ar Gymru i gyrraedd rownd wyth ola’ Cwpan y Byd.

Yn ôl Fuimaono, roedd y cyfan yn rhan o gynllwyn i geisio sicrhau bod gwledydd mawr fel De Affrica yn mynd trwodd i’r rowndiau terfynol.

Yn ôl y Bwrdd Rhyngwladol, fe fydd yr achos yn ei erbyn yn cael ei aildrefnu i roi cyfle i’r chwaraewr ateb yr honiadau.

Fe fydd Undeb Rygbi Samoa hefyd yn cael eu cosbi ar ôl derbyn cyhuddiad o fethu â rheoli Fuimaono.