Mae Cymru wedi graddio o’i grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Caio Higginson sy’n asesu perfformiad Cymru a’i gwrthwynebwyr nesaf.
Haleliwia! Cymru yn y cwarteri ac yn chwarae rygbi sydd wrth fodd y cefnogwyr.
Mi roedd y perfformiad ddoe yn erbyn Fiji’n ennyn gobaith realistig i Gymru wneud rhywbeth go arbennig yn y gystadleuaeth yma.
Bu’r ‘ddau gawr’, fel y cyfeiriwyd atynt gan bob sylwebydd wedi’r gem ddoe, yn wefreiddiol yn hollti amddiffyn Fiji. Cyn i’r gystadleuaeth ddechrau roedd yna bryder fod Cymru yn or-ddibynnol ar nerth Jamie Roberts fel eu prif bygythiad ond gyda dyfodiad George North i’r llwyfan ryngwladol mi fydd pob amddiffyn fydd yn dod yn eu herbyn yn chwysu ryw damaid.
Wrth gwrs her gwbl wahanol fydd y Gwyddelod fore Sadwrn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef i’m hwyliau ostwng wedi gwylio Iwerddon yn dofi’r Eidal yn yr hanner cyntaf ac yna torri’n rhydd yn yr ail hanner.
Felly er gorfoledd rhai cefnogwyr ein bod yn osgoi gwledydd hemisffer y De cyn y rownd derfynol, mae pawb yn gwybod pa fath o gem fydd yn ein disgwyl yn erbyn y Gwyddelod. A phawb yn ansicr o’r canlyniad.
Fe fydd O’Connell a’i gyd flaenwyr yn awchu am y frwydr. Mi roedd sylwadau Nick Mallet, hyfforddwr Yr Eidal, cyn y gem ddoe wedi ysbrydoli dynion yr Ynys Werdd ac mae Gatland yn gwybod o brofiad nad yw sylwadau bach sarhaus yn talu ffordd yn erbyn rhain. Fe fydd cais dadleuol Mike Phillips yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddigon i greu araith danllyd yn ystafell newid Brian O’Driscoll ddydd Sadwrn.
Heb os nac oni bai fydd hon yn gem a hanner i gefnogwyr rygbi diduedd, ac yn 80 munud o straen a gofid i gefnogwyr y ddwy wlad Celtaidd. Ond mae yna ddigon i fod yn hyderus ohono.
Pwy fydd Gatland yn ei ddewis?
Mae’n ymddangos fod y blaenwyr yn fater go syml. Gyda Gethin Jenkins yn dychwelyd i’r tîm wedi cyfnod hirfaith o anafiadau mae wedi profi unwaith eto ei fod yn amhrisiadwy am ei gyfraniad yn y sgrym, chwarae rhydd ac fel trydydd blaenasgellwr ac yn ail faswr. Ac os yw’r adroddiadau’n wir, fydd carfan lawn gan Gatland i ddewis ohono, rhaid ystyried fydd Dan Lydiate yn dychwelyd i’r rheng ôl felly.
Mi fydd gan bawb, ar hyd a lled y wlad, farn am bwy ddylai ddechrau yn yr olwyr. Pwy a fyddai wedi darogan ar drothwy’r gystadleuaeth byddai Rhys Preistland bron yn sicr o’i le fel maswr? Mi fydd Gatland yn craffu yn ofalus am ei dactegau megis meistr gwyddbwyll.
Pwy, allan o bedwar cyfuniad posib, fydd yn ymuno â Jamie Roberts yn y canol? A ydi’n ddoeth i chwarae Lee Byrne? A ydi Leigh Halfpenny yn barod i chwarae yn ei le fel cefnwr? Os yw James Hook yn holliach a ydyw’n dechrau’r gem ac os ydyw ym mha safle? Ac efallai y cwestiwn pwysicaf oll, pwy all gadw Mr O’Drsicoll yn dawel?
Nerth y garfan
Ond y rheswm fwyaf am gynnal yr hyder yw nerth y garfan, a’r fainc yn benodol. Yn erbyn De Affrica, dim ond Bradley Davies a ddaeth oddi ar y fainc fel eilydd i Gymru, lle achubwyd y Springboks gan fyddin o eilyddion a ddaeth i ymateb a momentwm tîm Sam Warburton.
Gyda Stephen Jones a Ryan Jones yn dychwelyd o anafiadau, perfformiadau diweddar Scott Williams, a Paul James sy’n sgrymiwr werth ei halen ar y llwyfan ryngwladol, fe fydd Cymru yn fwy na hyderus y gall y fainc yma ategu’r momentwm a pherfformiad ei chyd chwaraewyr wrth ymuno â’r ornest yng nghyfnodau hwyrach a dwys y gem.
Felly mae meddygon carfan Cymru wedi efelychu campau’r pair dadeni, ac mae gennym un gawr yn ychwanegol i’r hyn a oedd yn chwedl Branwen. Cawn ni ddim cyfle gwell!