Ni fydd wythwr Cymru, Taulupe Faletau, yn gwisgo’r crys coch yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, wrth iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei fraich.
Roedd yna obaith y byddai’r blaenwr 28 oed ar gael ar gyfer y ddwy gêm olaf yn erbyn yr Alban ac Iwerddon, ond bydd rhaid i garfan Warren Gatland wneud hebddo yn ystod yr wythnosau nesaf.
Fe dderbyniodd Taulupe Faletau yr anaf i’w fraich tra oedd yn chwarae i glwb rygbi Caerfaddon ym mis Hydref, ac er dychwelyd i’r cae ym mis Ionawr, bydd yn rhaid iddo dderbyn mwy o driniaeth.
“Mae ein calon yn gwaedu dros Taulupe, ond dyma’r cam gorau er mwyn iddo symud ymlaen fel chwaraewr,” meddai Todd Blackadder, prif hyfforddwr Caerfaddon.
“Bydd modd gwybod o safbwynt amser ar ôl y llawdriniaeth, ond rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu’r blaenwr yn ôl i’r garfan.”