Mae Gordon Banks, golwr Lloegr yng nghwpan y byd 1966, wedi marw yn 81 oed.
Cafodd y newydd ei gyhoeddi gan ei deulu ar wefan ei hen glwb, Stoke.
“Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn fod Gordon wedi marw’n dawel dros nos,” meddai’r cyhoeddiad.
“Rydym wedi torri’n calonnau o’i golli ond mae gennym gymaint o atgofion hapus ac all neb deimlo balchder mwy ohono.”
Ymddangosodd Gordon Banks mewn 510 o gemau cynghrair i Chesterfield, Caerlŷr a Stoke ac enillodd 73 o gapiau rhyngwladol.
Roedd yn un o sêr buddugoliaeth Lloegr yn 1966 yn erbyn Gorllewin yr Almaen, ac fel wnaeth arbediad bythgofiadwy yn erbyn Pele dros Brasil bedair blynedd yn ddiweddarach ym Mecsico.
Collodd ei olwg yn ei lygad dde ar ôl cael ei anafu mewn damwaith ffordd yn 1972 ac ymddeolodd yn 34 oed o ganlyniad.