Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru wedi herio’r chwaraewyr newydd sy’n wynebu’r Eidal yfory, i greu argraff a manteisio ar y cyfle.
“Rydym ni wedi hepgor chwaraewyr profiadol, safonol,” meddai Warren Gatland wrth drafod y penderfyniad i ollwng deg o’r chwaraewyr oedd yn y tîm drechodd Ffrainc wythnos yn ôl.
Un o’r wynebau newydd yn cychwyn yfory yn Rhufain yw Jonah Holmes, a fydd yn cymryd lle George North ar yr asgell.
Er iddo gael ei eni yn Stockport, mae chwaraewr Teigrod Caerlŷr yn gymwys i chwarae i Gymru am fod ganddo nain a thaid o Gymru.
Ac mae Warren Gatland yn ei herio i lenwi esgidiau George North.
“Wrth edrych yn ôl ar ein record yn erbyn yr Eidal, mae llawer iawn o bwyntiau wedi eu sgorio gan ein tri olwr, o ran ceisiadau.
“Fe gawn nhw gyfleon. Mae hepgor rhywun fel George North, sydd wedi sgorio ceisiau yn erbyn yr Eidal yn y gorffennol, yn golygu bod yna her go-iawn i’r chwaraewyr eraill yn y garfan fynd allan a pherfformio.”
Y tîm
Liam Williams; Jonah Holmes; Jonathan Davies (capten); Owen Watkin; Josh Adams; Dan Biggar; Aled Davies; Nicky Smith; Elliot Dee; Samson Lee; Jake Ball; Adam Beard; Aaron Wainwright; Thomas Young; Josh Navidi.
Ar y fainc
Ryan Elias; Wyn Jones; Dillon Lewis; Alun Wyn Jones ; Ross Moriarty; Gareth Davies; Gareth Anscombe; Hallam Amos.