Mae prif hyfforddwr Cymru yn proffwydo llwyddiant i Gymru yn ystod yr wythnosau nesaf os yw’r crysau cochion yn sicrhau buddugoliaeth dros Ffrainc yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad ym Mharis.
“Rydyn ni wedi cael rhediad anhygoel o ganlyniadau, ond yn gwybod ar yr un pryd faint mor anodd fyddai wynebu Ffrainc ym Mharis wrth agor y bencampwriaeth,” meddai Warren Gatland.
“Mae am fod yn gystadleuaeth fawr ond rydyn ni’n llawn cyffro. Mae gennym ni ddigonedd o brofiad ar draws y tîm ac ar y fainc ac rydyn ni am gychwyn pethau’n dda ddydd Gwener.”
Yn y tîm heno fe fydd Tomos Williams, sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth yn safle’r mewnwr, a Gareth Anscombe sydd wedi cadw’r crys rhif 10.
Alun Wyn Jones fydd capten y Cymry, ac fe fydd yn yr ail reng gyda’i gyd-chwaraewr o’r Gweilch, Adam Beard.
Yn y rheng flaen mae Rob Evans, Tomas Francis a Ken Owens, tra bo Justin Tipuric a Ross Moriarty yn y rheng ôl.
O ran y cefnwyr wedyn, fe fydd Hadleigh Parkes a Jonathan Davies yn parhau’r bartneriaeth yng nghanol y cae gyda Josh Adams, George North a Liam Williams yn y cefn.
Bydd modd gwylio a gwrando ar y gêm yn fyw ar y radio a’r teledu lloeren, gyda darllediadau Cymraeg ar BBC Radio Cymru ac S4C. Mae disgwyl i’r gêm gychwyn am wyth o’r gloch.
Y tîm
Liam Williams, George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams, Gareth Anscombe, Tomos Williams; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Ar y fainc
Elliot Dee, Wyn Jones, Samson Lee, Cory Hill, Aaron Wainwright, Gareth Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.