Dreigiau 59–3 Timisoara Saracens

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth gyfforddus wrth iddynt groesawu’r Timisoara Saracens i Rodney Parade yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.

Roedd pawb yn darogan crasfa i’r ymwelwyr o Rwmania a felly y bu wrth i’r Cymry groesi am naw cais i gyd.

Dechreuodd Hallam Amos y gêm fel canolwr a chafodd hwyl dda arni gan sgorio dau gais yn yr hanner awr cyntaf.

Ychwanegodd Will Talbot-Davies drydydd y tîm cartref ym munud olaf yr hanner cyntaf, yn gwneud yn dda i gasglu pêl anodd wrth ei draed cyn croesi.

Deugain eiliad yn unig o’r ail hanner a gymerodd hi i’r Dreigiau sgorio eu pedwerydd, Rhodri Davies yn croesi wedi gwaith da Amos a Jordan Williams.

Matthew Screech a gafodd y pumed cyn i Talbot-Davies orffen yn dda am ei ail ef a chweched ei dîm ar yr awr.

Roedd amddiffyn y Rwmaniaid ar chwâl erbyn hyn ac ychwanegodd y Dreigiau dri chais arall yn chwarter olaf y gêm, un yr un i Jordan Williams a Ben Fry ac ail o’r noson i’r mewnwr, Rhodri Davies.

Llwyddodd Jason Tovey gyda saith allan o naw trosiad i orffen y gêm gyda phedwar pwynt ar ddeg, 59-3 y sgôr terfynol.

Mae’r Dreigiau’n aros yn bumed yng ngrŵp 1 er gwaethaf y fuddugoliaeth swmpus.

.

Dreigiau

Ceisiau: Hallam Amos 11’, 27’, Will Talbot-Davies 40’, 60’, Rhodri Davies 41’, 69’, Matthew Screech 57’, Jordan Williams 66’, Ben Fry 68’

Trosiadau: Jason Tovey 40’, 41’, 58’, 61’ 67’, 68’, 70’

.

Timisoara Saracens

Cic Cosb: Luke Samoa 2’