Mae amheuon na fydd y blaenasgellwr Ellis Jenkins yn holliach ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl anafu ei ben-glin, wrth i dîm rygbi Cymru guro De Affrica o 20-11 yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).
Roedd yr anaf yn gysgod tros achlysur hanesyddol, wrth i Gymru ennill pob gêm yn yr hydref am y tro cyntaf erioed, wrth i Ellis Jenkins gael ei enwi’n seren y gêm.
Ond cafodd ei gario oddi ar y cae ar wastad ei gefn, ac fe fu’n rhaid iddo dderbyn ocsigen yn dilyn y chwiban olaf.
Mae’r anaf yn golygu y bydd yn wynebu cryn her i brofi ei ffitrwydd cyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi.
Mae Warren Gatland wedi mynegi ei gydymdeimlad, gan ganmol ei berfformiad.