Scarlets 13–14 Racing 92

Ildiodd y Scarlets gais gosb hwyr wrth golli eu gêm agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Racing 92 nos Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf siomedig fe frwydrodd Bois y Sosban yn ôl i fod ar y blaen gydag ychydig funudau’n weddill ar Barc y Scarlets. Ond y Ffrancwyr a aeth â hi yn y diwedd diolch i’r sgôr hwyr.

Dechreuodd y Scarlets yn dda ac roeddynt ar y blaen yn haeddiannol wedi deg munud diolch i gic gosb gan Leigh Halfpenny.

Daeth y Ffrancwyr yn fwyfwy i’r gêm wedi hynny ac roeddynt yn meddwl eu bod wedi mynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner ond roedd y bêl wedi ei tharo ymlaen cyn i Finn Russell groesi.

Daeth cais i’r ymwelwyr yn y diwedd serch hynny wrth i’r blaenasgellwr, Baptiste Chouzenoux, sgorio ym munud olaf yr hanner. Ychwanegodd Russell y trosiad, 3-7 y sgôr wrth droi.

Cafwyd ymateb da gan Fois y Sosban ar ddechrau’r ail hanner ac roeddynt yn ôl ar y blaen wedi i Gareth Davies groesi am gais gyda bylchiad nodweddiadol.

Roedd y tîm cartref ym mhellach ar y blaen ar yr awr diolch i gais Johnny McNicholl, yr asgellwr yn tirio wedi cic ddeallus Jonathan Davies i’w lwybr, 13-7 y sgôr gyda chwarter y gêm yn weddill.

Roedd angen trosgais ar y Ffrancwyr i gipio’r fuddugoliaeth felly ac fe ddaeth hwnnw dri munud o ddiwedd yr wyth deg diolch i sgarmes symudol effeithiol. A fu dim rhaid i Russell hyd yn oed anelu am y pyst i’w hennill hi i Racing gan i’r dyfarnwr redeg o dan y pyst i ddynodi cais cosb.

.

Scarlets

Ceisiau: Gareth Davies 53’, Johnny McNicholl 58’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 10’

.

Racing 92

Ceisiau: Baptiste Chouzenoux 40’, Cais Cosb 77’

Trosiad: Finn Russell 40’