Mae’n edrych yn debyg na fydd yr wythwr, Taulupe Faletau, yn chwarae i Gymru yn ystod yr hydref hwn, yn dilyn cadarnhad ei fod wedi torri ei fraich.
Fe dderbyniodd y chwaraewr 27 oed yr anaf yn ystod y gêm rhwng ei glwb, Caerfaddon, a Chaerwysg ddydd Gwener diwethaf (Hydref 5).
Mae disgwyl i Gymru herio’r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica ym mis Tachwedd.
Bu rhaid i Taulupe Faletau golli rhai o gemau Cymru yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni oherwydd iddo dderbyn anaf i’w goes.
Mae wedi ennill cyfanswm o 72 cap dros y crysau cochion, a bu hefyd yn aelod o garfan y Llewod yn erbyn Awstralia yn 2013 a Seland Newydd yn 2017.
Does dim gwybodaeth ynglŷn â phryd fydd yn iach i chwarae eto.