Mae 14 newid wedi cael ei wneud i dîm y Gleision, a hynny ar drothwy’r gêm gyfeillgar yn erbyn Caerwysg yfory (dydd Sadwrn, Awst 18).
Ar ôl i’r clwb o Gaerdydd golli o 17 i 15 pwynt yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn diwetha’, mae’r blaenasgellwr Olly Robinson wedi cael aros yn gapten ar gyfer y gêm yn Nyfnaint.
Ond mae prif hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill, wedi cyflwyno’r newidiadau er mwyn rhoi cyfle i’r chwaraewyr ddangos eu doniau cyn y tymor newydd, a fydd yn cychwyn gyda gêm yn erbyn Leinster sy’n rhan o gystadleuaeth y PRO 14.
Y newidiadau
Ar gyfer y gêm yfory, bydd Dmitri Arhip yn gwneud ei ymddangosiad cynta’ yng nghrys y Gleision, gan ymuno â Rhys Goll a Kirby Myhill yn y rheng flaen.
Mae George Earle wedi gwella o’i anaf ac fe fydd yn cymryd safle’r ail reng, tra bo Rory Thornton hefyd yn ymuno â’r blaenwyr.
O ran y cefnwyr, bydd Owen Lane yn dychwelyd i’r asgell wedi iddo dderbyn anaf yn ystod ffeinal y Cwpan Ewropeaidd.
Mae 12 chwaraewr wedi cael eu henwi i’r fainc wedyn, gan gynnwys y blaenwr dros Gymru, Dillon Lewis.
Rhoi mwy o gyfleoedd
“Fe wnaethom ni roi cyfleoedd i dipyn o chwaraewyr ifanc yr wythnos ddiwetha’, a’r wythnos hon rydan ni’n dychwelyd rhai sydd â mwy o brofiad,” meddai John Mulvihill.
“Dw i’n edrych ymlaen i weld sut y byddan nhw’n ymdopi ar ôl wythnos arall o baratoadau.
“Yn dilyn y gêm hon, fe fyddwn ni wedi defnyddio mwy na deugain chwaraewr ac yn cyfyngu ein ffocws ar gyfer y gem yn erbyn Leinster.”
Y tîm
Mathew Morgan, Owen Lane, Garyn Smith, Steve Shingler, Aled Summerhill, Jarrod Evans, Lloyd Williams, Rhys Gill, Kirby Myhill, Dmitri Arhip, George Earle, Rory Thornton, Josh Turnbull, Olly Robinson, Seb Davies.
Ar y fainc
Ethan Lewis, Corey Domachowski, Dillon Lewis, James Down, Alun Lawrence, Lewis Jones, Harri Millard, Willis Halaholo, Jim Botham, Jason Harries, Tom James, Tom Williams.