Gleision 31–30 Caerloyw
Y Gleision yw pencampwyr Cwpan Her Ewrop yn dilyn buddugoliaeth anhygoel yn erbyn Caerloyw yn y rownd derfynol yng Ngwlad y Basg nos Wener.
Roedd y Cymry bedwar pwynt ar ddeg ar ei hôl hi ar yr egwyl yn y San Mamés, Bilbao, cyn taro nôl i’w hennill hi o bwynt yn y diwedd gyda chic gosb Gareth Anscombe ym munud olaf y gêm.
Hanner Cyntaf
Er i’r Gleision fynd ar y blaen gyda chic gosb Jarrod Evans, fe roddwyd cnoc gynnar i’w gobeithion pan fu rhaid i’r dylanwadol, Josh Navidi, adael y cae gydag anaf.
Hanner Caerloyw a oedd o wedi hynny ac roedd y Saeson ar y blaen wedi deg munud diolch i gais Henry Trinder o gic letraws Billy Burns, a throsiad Billy Twelvetrees.
Cyfnewidiodd Evans a Twelvetrees gic gosb yr un wedi hynny a phedwar pwynt yn unig a oedd ynddi gyda deg munud i fynd tan yr egwyl.
Caerloyw a orffennodd orau serch hynny gan ymestyn eu mantais gyda chais da i Mark Atkinson, y canolwr yn croesi o dan y pyst wedi gwaith da Twelvetrees, Trinder a Callum Braley ar yr asgell chwith.
Llwyddodd Twelvetrees gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb arall cyn yr egwyl, 6-20 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Gan wybod y byddai sgôr gyntaf yr ail hanner yn holl bywsig, dechreuodd y Gleision ar dân gyda chais i Tomos Williams o fewn munud, y mewnwr yn rheoli’r bêl i orffen yn wych wedi cic ddeallus Gareth Anscombe i’w lwybr.
Rhoddodd trosiad a chic gosb Evans y Gleision o fewn pedwar pwynt gyda hanner awr yn weddill ac roedd mwy i ddod gan y Cymry. Aethant ar y blaen pan groesodd Garyn Smith wedi cic fach bwt Evans ac roedd ganddynt dri phwynt o fantais wedi trosiad y maswr ifanc.
Roedd y momentwm gyda’r Cymry erbyn hyn ond newidiodd hynny ar yr awr pan darodd Williams y bêl ymlaen wrth geisio cymryd cic gosb gyflym.
Arweiniodd hynny at lein bum medr, sgarmes symudol a chais James Hanson i Gaerloyw, ac erbyn i Twelvetrees gicio’r trosiad a chic gosb arall roedd ei dîm yn ôl ar y blaen, 23-30 y sgôr gyda chwarter awr i fynd.
Curodd a churodd y Gleision ar y drws yn y munudau olaf, a gyda Lewis Ludlow yn y gell gosb i Gaerloyw, fe lithrodd Blaine Scully drosodd yn y gornel er gwaethaf ymdrech Twelvetrees i’w daclo.
Fe fyddai trosiad Anscombe wedi rhoi’r sgôr yn gyfartal gyda thri munud i fynd ond roedd yn gyfle anodd i giciwr troed dde o’r ystlys dde a methu a oedd ei hanes.
Ond daeth cyfle arall i Anscombe ddau funud yn ddiweddarach diolch i waith da Smith yn ardal y dacl a gyda thri phwynt ar gael y tro hwn, roedd hi’n ddigon i’w hennill hi.
Aeth y gic drosodd a chadwodd y Gleision eu gafael ar y bêl a’r pwynt o fantais yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy a thlws i Danny Wilson yng ngêm olaf y prif hyfforddwr wrth y llyw.
.
Gleision
Ceisiau: Tomos Williams 41’, Garyn Smith 55’, Blaine Scully 76’
Trosiadau: Jarros Evans 42’, 56’
Ciciau Cosb: Jarrod Evans 5’, 16’, 51’, Gareth Anscombe 78’
.
Caerloyw
Ceisiau: Henry Trinder 9’, Mark Atkinson, 38’, James Hanson 59’
Trosiadau: Billy Twelvetrees 10’, 39’, 60’
Ciciau Cosb: Billy Twelvetrees 27’, 40’, 63’
Cerdyn Melyn: Lewis Ludlow 74’