Mae trefnwyr y gêm rygbi rhwng Cymru a De Affrica yn yr Unol Daleithiau ym mis Mehefin, yn dweud bod y “paratoadau’n mynd yn eu blaenau” – er bod adroddiadau’n awgrymu bod y cwmni sy’n cynnal y gêm mewn trafferthion ariannol.
Mae yna sïon fod Rugby International Marketing (RIM) yn trio rhoi trefn ar eu ty eu hunain, wrth iddyn nhw orfod cyfaddef hefyd fod gwerthiant tocynnau hyd yn hyn yn isel iawn.
Mae disgwyl i Gymru wynebu De Affrica yn Stadiwm RFK yn Washington DC ar Fehefin 2. Fe fydd y crysau cochion wedyn yn mynd yn eu blaenau ar daith i’r Ariannin, lle byddan nhw’n chwarae mewn dwy gêm brawf.
Gwerthiant “ar gynnydd”
Mewn datganiad heddiw gan Undeb Rygbi Cymru, mae llefarydd ar ran bwrdd rheolwyr RIM yn dweud bod gwerthiant tocynnau ar hyn o bryd “ar gynnydd”, gyda thros 12,000 wedi’u gwerthu yn barod.
“Rydyn ni’n disgwyl ymlaen i groesawu Cymru a’r Sprinboks i Washington DC ar Fehefin 2,” meddai.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedyn wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau lleol i gyd-fynd ag wythnos y gêm ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau, ac maen nhw’n gobeithio y bydd y chwaraewyr yn “llysgenhadon da” i rygbi Cymru.
Mae disgwyl y bydd chwaraewyr profiadol yn cael seibiant yn ystod y gemau ym mis Mehefin, gyda’r capten Alun Wyn Jones a’r wythwr Taulupe Faletau ymhlith y rheiny.