Caeredin 52–14 Scarlets
Croesodd Caeredin am wyth cais ym Murrayfield wrth roi cweir iawn i’r Scarlets yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.
Gydag un golwg ar y gêm Ewropeaidd yn erbyn Leinster y penwythnos nesaf, fe orffwysodd Bois y Sosban nifer o chwaraewyr ac fe fanteisiodd yr Albanwyr yn llawn gan reoli’r gêm o’r dechrau’n deg.
Dechreuodd Caeredin ar dân gan sgorio pedwar cais i sicrhau’r pwynt bonws o fewn hanner awr.
Daeth y cyntaf o’r rheiny i Blair Kinghorn wedi saith munud er bod y bas iddo yn amlwg ymlaen. Dilynodd un yr un i Duhan van der Merwe a Sam Hidalgo-Clyne wedi hynny cyn i’r blaenasgellwr, Magnus Bradbury, groesi yn y gornel dde am y pedwerydd.
Roedd chwe phwynt ar hugain yn gwahanu’r timau chwarter awr cyn yr egwyl felly ond yn ôl y daeth y Scarlets gyda dau gais eu hunain cyn troi.
Daeth y cyntaf wrth i Tom Varndell orffen yn dda yn y gornel chwith a’r ail i Dan Jones wedi dwylo da Josh Macleod. 26-14 y sgôr ar hanner amser felly a llygedyn o obaith i Fois y Sosban.
Adferodd Caeredin eu tair sgôr o fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod serch hynny wrth i van der Merwe groesi am ei ail gais ef o’r gêm wedi bylchiad gwych a chic gywir Hidalgo-Clyne i’w lwybr.
Croesodd Luke Crosbie o dan y pyst am bumed y tîm cartref toc cyn yr awr wedi gwaith da Mark Bennett a Cornell Du Preez.
Ac roedd amser am ddau gais arall yn y pum munud olaf, y naill i Bennett wedi rhediad hir Duncan Weir a’r llall i Nathan Fowles gyda symudiad yn syth o’r cae ymarfer.
Mae’r Scarlets yn aros yn ail yn nhabl cyngres B y Pro14 er gwaethaf y golled ond pwynt yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a Chaeredin yn y trydydd safle bellach gydag un gêm o’r tymor arferol yn weddill.
.
Caeredin
Ceisiau: Blair Kinghorn 7’, Duhan van der Merwe 9’, 46’, Sam Hidalgo-Clyne 21’, Magnus Bradbury 24’, Luke Crosbie 58’, Mark Bennett 76’, Nathan Fowles 80’
Trosiadau: Sam Hidalgo-Clyne 10’, 21’, 25’, 47’, 59’, Duncan Weir 77’
.
Scarlets
Ceisiau: Tom Varndell 28’, Dan Jones 33’
Trosiadau: Dan Jones 30’, 34’