Cymru 38–14 Yr Eidal

Cafodd Cymru fuddugoliaeth gyfforddus wrth iddynt groesawu’r Eidal i’r stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd ym Mhencampwriaeth y chwe Gwlad brynhawn Sul.

Hadleigh Parkes, George North (2), Cory Hill a Justin Tipuric a sgoriodd y ceisiau mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Cymru ar dân gyda dau gais yn y chwe munud agoriadol. Troellodd Parkes ei ffordd trwy dacl Tommy Castello i dirio’r cyntaf cyn i North groesi am yr ail wedi rhyng-gipiad gan Owen Watkin yn ei hanner ei hun.

Ymatebodd Matteo Minozzi i’r Eidalwyr yn fuan wedyn, y cefnwr bach yn gorffen yn dda yn y gornel chwith.

Wedi deg munud cyntaf llawn cyffro, distewodd pethau wedi hynny a chic gosb o droed Gareth Anscombe a oedd unig bwyntiau arall yr hanner cyntaf.

Gorffennodd Cymru’r hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi cerdyn melyn i Liam Williams am dacl beryglus ar Minozzi.

Ail Hanner

Hyrddiodd Cory Hill drosodd am drydydd cais Cymru yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Gareth Davies ymuno â Williams yn y gell gosb am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.

Gyda phymtheg dyn yn ôl ar y cae, fe orffennodd Cymru’n gryf gyda chais yr un i North a Justin Tipuric yn y chwarter awr olaf.

Croesodd North am ei ail wedi dadlwythiad taclus Rhys Patchell cyn i Tipuric lithro dosodd yn y gornel chwith wedi pas hir Parkes.

Roedd digon o amser ar ôl am gais cysur i Mattia Bellini yn y munudau olaf ond roedd Cymru wedi gwneud hen ddigon i ennill y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn eu rhoi’n ail yn y tabl ac fe ddylai buddugoliaeth gartref yn erbyn Ffrainc ar y Sadwrn olaf fod yn ddigon i sicrhau eu bod yn gorffen yn y safle hwnnw hefyd, y tu ôl i’r pencampwyr, Iwerddon.

.

Cymru

Ceisiau: Hadleigh Parkes 4’, George North 6’, 66’, Cory Hill 43’, Justin Tipuric 71’

Trosiadau: Gareth Anscombe 5’, 7’, 44’, Leigh Halfpenny 68’, 72’

Cic Gosb: Gareth Anscombe 37’

Cardiau Melyn: Liam Williams 40’, Gareth Davies 49’

.

Yr Eidal

Ceisiau: Matteo Minozzi 10’, Mattia Bellini 76’

Trosiadau: Tommy Allan 12’, Carlo Canna 77’

Cerdyn Melyn: Tommaso Benvenuti 77’