Wrecsam 2–0 Caer
Wrecsam aeth â hi yn y gêm ddarbi rhyngddynt a Chaer ar y Cae Ras brynhawn Sul.
Sgoriodd Quigley a Deverdics o fewn wyth munud i’w gilydd yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth i’r Dreigiau yn y gêm yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.
Cafodd y ddau dîm gyfnodau da mewn hanner cyntaf di sgôr ond yr ymwelwyr a ddechreuodd orau wedi’r egwyl a bu rhaid i Chris Dunn wneud arbediad da yn uchel i’w dde i atal ergyd Lucas Dawson o bellter.
Daeth y Dreigiau fwyfwy i’r gêm wedi hynny ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen ar yr awr gyda gôl Scott Quigley, y blaenwr yn rhwydo gydag ergyd isel o ugain llath yn dilyn cyd chwarae da gyda Nicky Deverdics.
Deverdics ei hun a sgoriodd yr ail wyth munud yn ddiweddarach, yn gorffen yn daclus wedi i ergyd Chris Holroyd adlamu’n garedig iddo yn y cwrt cosbi.
Roedd hynny’n ddigon i Wrecsam wrth iddynt amddiffyn yn gyfforddus wedi hynny i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r tri phwynt yn codi tîm Dean Keates i’r pedwerdydd safle yn y tabl gyda naw gêm yn weddill.
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Smith (Carrington 11’), Pearson, Holroyd, Wedgbury, Raven, Quigley (Ainge 86’), Deverdics (Wright 78’), Rutherford, Kelly, Roberts
Goliau: Quigley 61’, Deverdics 69’
Cerdyn Melyn: Kelly 62’
.
Caer
Tîm: Firth, Halls, Hobson, Crawford, Anderson, Astles, (Hannah 71’), Akintunde (White 72’), Waters (Mahon 79’), Dawson
Cardiau Melyn: Crawford 17’, Anderson 22’
.
Torf: 6,511