Mae tîm rygbi Cymru’n “ddigon hapus” ar ôl trechu’r Alban o 34-7 ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ôl y bachwr Ken Owens.
Hon oedd un o ganlyniadau mwyaf swmpus Cymru ar ddiwrnod cynta’r Bencampwriaeth ers bron i ddau ddegawd.
Dyma’u hail fuddugoliaeth fwyaf dros yr Albanwyr ers 135 o flynyddoedd, a’u buddugoliaeth bwynt bonws gyntaf.
Daeth y ceisiau gan y cefnwr Leigh Halfpenny (dau), y mewnwr Gareth Davies a’r asgellwr Steff Evans.
Ac fe wnaeth Halfpenny dorri’r record pwyntiau yr oedd yn ei chyd-ddal gyda Neil Jenkins ar gyfer Cymro yn erbyn yr Alban.
Bydd Cymru’n teithio i Twickenham i herio Lloegr ymhen chwe niwrnod, gan wybod y bydd George North, Liam Williams a Hallam Amos ar gael i chwarae.
Mae Cymru heb eu capten Sam Warburton, Jonathan Davies, Taulupe Faletau, Dan Biggar a Rhys Webb ar hyn o bryd.
‘Sgorio ceisiau’
Dywedodd Ken Owens: “Ro’n i’n credu bod ein gêm ymosodol yn amlwg yn yr ail hanner ac fe ddaethon ni i ffwrdd gyda phedwar cais.
“Ry’n ni wedi cael ein beirniadu am fethu â sgorio ceisiau, am fethu â sgorio, a dw i’n credu ein bod ni wedi cyflawni hynny.
“Os gwnawn ni lanhau ambell beth, byddwn ni’n gwella erbyn yr wythnos nesaf.”
Dywedodd fod Cymru’n “dibynnu’n ormodol” ar drosglwyddo’r bêl ar adegau, ac y dylen nhw geisio dal eu gafael ar y bêl am gyfnodau hirach wrth redeg.
“Ond roedd yr uchelgais yn wych,” meddai, “ac ar ôl y gêm gyntaf, ry’n ni’n ddigon hapus.”
Lloegr v Cymru
Mae Cymru wedi curo Lloegr dair gwaith ar gae Twickenham o dan y prif hyfforddwr Warren Gatland – a hynny ar ôl dau ddegawd hesb cyn hynny.
Ac mae Ken Owens yn mynnu y bydd y tîm yn “hyderus” wrth fynd yno.
“Ry’n ni wedi gwneud yn dda yn Twickenham dros y blynyddoedd.
“Fe wnaethon ni orffen y gêm yn gryf yno ddwy flynedd yn ôl ac fe allen ni fod wedi crafu buddugoliaeth a’r un peth yng Nghaerdydd y llynedd, pan oedden nhw’n glinigol ac wedi cael cais rhagorol ar y diwedd i’w hennill hi.”