Gweilch 15–15 Saracens
Mae gobeithion Ewropeaidd y Gweilch yn fyw o hyd yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Saracens ar y Liberty yng ngrŵp 2 Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Sadwrn.
Bydd angen buddugoliaeth ar y Cymry oddi cartref yn Clermont yr wythnos nesaf o hyd ond mae tynged y rhanbarth o Gymru yn eu dwylo eu hunain wedi i Biggar a Farrell gicio pymtheg pwynt yr un ar noson wlyb yn Abertawe.
Hanner Cyntaf
Saracens a ddechreuodd y gêm orau a doedd fawr o syndod gweld Owen Farrell yn eu cicio chwe phwynt ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner.
Ond roedd hi’n gêm agos gyda’r chwarae gosod a disgyblaeth yn ardal y dacl yn holl bwysig a brwydrodd y Gweilch eu ffordd yn ôl i’r gêm gyda dwy gic gosb gan Biggar o bobtu i un arall gan Farrell, 6-9 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Cyfnewidodd Biggar a Farrell gic gosb yr un ym munudau agoriadol yr ail hanner wrth iddi aros yn glos ond y Gweilch a oedd y tîm gorau wedi hynny.
Daeth eiliad fawr chwarter awr o ddiwedd y gêm pan gafodd Sam Davies ei atal yn yr awyr gan Chris Wyles, a wnaeth ddim ymdrech o gwbl i ddal y bêl. Cerdyn melyn yn unig a gafodd eilydd Saracens ond gallai, yn rhwydd, fod wedi bod yn goch.
Unionodd Biggar y sgôr gyda’i bedwaredd cic gosb wyth munud o’r diwedd cyn i Farrell adfer tri phwynt o fantais yr ymwelwyr yn fuan wedyn.
Enillodd y Gweilch gic gosb arall funud o ddiwedd yr wyth deg ac roedd penderfyniad i’w wneud, cicio am y pyst a chymryd gêm gyfartal neu gicio i’r gornel a mynd am y fuddugoliaeth.
Mynd am y pyst a oedd y dewis wrth i’r Gweilch gadw eu gobeithion yn fyw tan y penwythnos olaf.
.
Gweilch
Ciciau Cosb: Dan Biggar 31’, 40’, 45’, 72’, 80
.
Saracens
Ciciau Cosb: Owen Farrell 6’, 20’, 34’, 48’, 76’
Cerdyn Melyn: Chris Wyles 66’