Mae mewnwr tîm cenedlaethol Cymru, Lloyd Williams, wedi arwyddo cytundeb newydd â rhanbarth Gleision Caerdydd.
Daw’r ddêl newydd hon yn sgil cytundebau diweddar y clwb â Josh Turnbull, Seb Davies a Blaine Scully.
Mae Lloyd Williams wedi ennill 28 cap, a bu’n aelod o garfan Cymru yn ystod ymgyrchoedd Cwpan y Byd 2011 a 2015.
“Dw i’n hapus iawn fy mod i wedi arwyddo dêl newydd,” meddai. “Dw i’n falch ei bod wedi’i harwyddo, a dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol.
“Roeddwn eisiau aros yng Nghymru, dyna’r peth gorau i mi, a dw i’n hapus iawn gyda’ clwb. Mae rhai o fy ffrindiau gorau wrth fy ochr, ac mae’n teimlo fel tîm cryf â meddylfryd positif.
“Dw i wedi dweud erioed: os dw i’n aros yng Nghymru, dw i eisiau aros gyda Gleision Caerdydd.”