Fe fydd Hadleigh Parkes yn chwarae ei gêm cyntaf i Gymru ddydd Sadwrn (Rhagfyr 2) wrth iddyn nhw wynebu De Affrica yn Stadiwm Principality.

Mae’r canolwr sy’n enedigol o Seland Newydd – ac sy’n chwarae i’r Scarlets –bellach wedi treulio digon o amser yng Nghymru i fedru chwarae i’r wlad.

Yn ogystal â chynnwys Hadleigh Parkes mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud pedwar newid arall i’r tîm wnaeth golli yn erbyn Seland Newydd penwythnos diwethaf.

“Cyfle gwych”

“Mae ddydd Sadwrn yn gyfle i barhau i adeiladu ar yr hyn rydym wedi gwneud hyd yma, ac i orffen ymgyrch yr hydref â pherfformiad mawr,” meddai Warren Gatland.

“Mae’r penwythnos yma yn gyfle gwych i Hadleigh fedru ennill ei gap cyntaf ac i Aled [Davies] ddechrau am y tro cyntaf yn ystod yr ymgyrch.

“Rydym wedi derbyn cyfres o ergydion yn dilyn penwythnos diwethaf, a bellach dydy Ken [Owens], Leon [Brown] and Jake [Ball] ddim ar gael. Ond, dyma gyfle yn awr i Kristian, Scott a Cory.”

Y tîm

L Halfpenny; H Amos, S Williams, H Parkes, S Evans; D Biggar, A Davies; R Evans, K Dacey, S Andrews, C Hill, A W Jones (capten), A Shingler, J Navidi, T Faletau

Ar y fainc

E Dee, W Jones, R Jones, S Davies, D Lydiate, R Webb, R Patchell, O Watkin