Scarlets 20–8 Treviso

Parhau y mae dechrau da’r Scarlets i’r tymor yn y Guinness Pro14 yn dilyn buddugoliaeth dros Treviso nos Wener.

Nid oedd hi’n glasur ar Barc y Scarlets ond fe wnaeth y tîm cartref ddigon i drechu’r Eidalwyr diolch i geisiau Dan Jones a Scott Williams.

Ciciodd Jones bwyntiau cyntaf y gêm wedi pum munud, a’r maswr cartref a groesodd am gais cyntaf y noson wyth munud yn ddiweddarach hefyd, yn ffugio’n effeithiol cyn croesi o dan y pyst, 10-0 wedi’r trosiad.

Caeodd Ian McKinley’r bwlch gyda chic gosb i Treviso ac roedd yr Eidalwyr yn rhoi dipyn o gêm i Fois y Sosban.

Wedi dweud hynny, roedd deg pwynt ynddi eto ar yr egwyl diolch i dri phwynt arall o droed Jones.

Hanner cyntaf i’r maswyr oedd hi a chais i rif deg yr ymwelwyr oedd sgôr gyntaf yr ail hanner hefyd, McKinley yn bylchu trwy amddiffyn y Scarlets yn rhy rhwydd o lawer wedi lein ar y llinell 22 medr.

Un sgôr a oedd yn gwahanu’r timau wedi hynny a bu rhaid aros tan ddeuddeg munud o’r diwedd cyn i gais Scott Williams roi golau dydd rhyngddynt eto, y capten cartref yn casglu cic ddeheuig Jones cyn tirio.

Rhoddodd trosiad Jones ddeuddeg pwynt o fantais i’r Cymry ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Mae’r  canlyniad yn cadw’r Scarlets ar frig Cyngres B y Pro14.

.

Scarlets

Ceisiau: Dan Jones 13’, Scott Williams 68’

Trosiadau: Dan Jones 14’, 69’

Ciciau Cosb: Dan Jones 5’, 32’

.

Treviso

Cais: Ian McKinley 44’

Cic Gosb: Ian McKinley 17’

Cerdyn Melyn: Andrea Bronzini 58’