Penwythnos yma yw rownd olaf Guinness PRO14 cyn saib ar gyfer Cwpan Eingl-Gymreig a gemau rhyngwladol Cyfres yr Hydref.
Y gêm fyw ar BBC2 Wales heno fydd yr ornest o Barc y Scarlets, gyda’r tîm cartref yn wynebu Benetton o’r Eidal.
Fe fydd Scott Williams yn arwain y Scarlets ac mae tîm hyfforddi rhyngwladol Cymru wedi rhyddhau Hadleigh Parkes o’r garfan ar gyfer yr ornest.
Mae John Barclay yn dychwelyd i’r tîm am y tro cyntaf ers dioddef cyfergyd yn erbyn Caeredin ddiwedd mis Medi. Gan bod Barclay yn ôl yn nghrys yr wythwr mae Tadhg Beirne yn symud i safle’r blaenasgellwr.
Johnny Mcnicholl fydd yn safle’r cefnwr gyda Paul Asquith ar yr asgell. Bydd Tom Prydie yn cychwyn ei gêm ranbarthol gyntaf y tymor hwn ar yr asgell arall.
Tîm y Scarlets i wynebu Benetton Rugby ym Mharc y Scarlets heno gyda’r gic gyntaf am 7.35pm:
15 Johnny Mcnicholl, 14 Tom Prydie, 13 Hadleigh Parkes, 12 Scott Williams (capten), 11 Paul Asquith, 10 Dan Jones, 9 Jonathan Evans, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Lewis Rawlins, 5 David Bulbring, 6 Tadhg Beirne, 7 Will Boyde, 8 John Barclay.
Eilyddion; Taylor Davies, Rhys Fawcett, Simon Gardiner, Tom Price, Josh Macleod, Declan Smith, Rhys Jones, Steff Hughes.