Mae sawl gornest ddiddorol yn ail rownd Cwpan Cymru yfory, ac o bosib y bydd sioc yn y gêm rhwng Gresffordd a Chonwy.
Mae Gresffordd yn ddeuddegfed yng nghynghrair y Cymru Alliance, a Chonwy yn chwarae mewn cynghrair yn is ond yn gobeithio am ddyrchafiad y tymor hwn.
Nôl yn 1992 roedd Conwy yn un o aelodau gwreiddiol Uwch Gynghrair Cymru. Mi orffennon nhw yn drydydd yn nhymor 1995/96 gyda Ken Mckenna yn rhwydo 49 o weithiau a thorri record sgorio’r clwb ar y pryd.
Conwy
Y dyn sydd â’r gyda’r dasg o gael Conwy nôl yn y Cymru Alliance yw’r rheolwr profiadol Gareth Thomas, a gafodd gyfnod gwych gyda Dinbych yn ddiweddar gan eu harwain nhw i rownd derfynol Cwpan Word a’r trydydd safle yn y Cyrmu Alliance yn nhymor 2015/16.
Mae cyn-amddiffynnwr Bangor , Porthmadog a Glantraeth, Iolo Hughes yn chwarae i Gonwy, ac mae’r rheolwr a’r hyfforddwr Alan Winstanley wedi creu argraff arno.
“Roeddwn heb glwb ar ôl i Lantraeth benderfynu ymddiswyddo o’u gynghrair. Gwnaeth Gareth fy ffonio ac aeth allan o’i ffordd i gwrdd â phawb yn wyneb i wyneb,” meddai Iolo Hughes wrth golwg360.
“Roedd hyn yn arwydd da ei fod yn rheolwr sy’n gwneud y pethe iawn..
“Rydan ni yn targedu’r gynghrair a phob cwpan, dyna be mae’r rheolwr yn pwysleisio, trin bob gêm fel ffeinal. Bydd yn gêm galed ddydd Sadwrn, maen nhw’n dîm cryf ac yn dal eu tir yn y gynghrair, ond byddan ni yn mynd yna yn hyderus a heb ofn. Mae’r pwysau arnyn nhw.”
Bydd clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ymuno yn y drydedd rownd.
Gemau’r ail rownd
Airbus UK Broughton v Saltney
Rhydaman v Llantwit Major
Brickfield Rangers v Rhuthun
Bwcle v Llandudno Albion
Caernarfon v Berriew
Caerffili Athletic v Penrhyncoch
Caersws v Llanrhaedr Ym Mochnant
Cwmamman United v Bridgend Street
Cwmbrân Celtic v Llanelli
Goytre FC v Briton Ferry Llansawel
Gresffordd Athletic v Conwy
Hwlffordd v Aberbargoed Buds
Treffynnon v Cegidfa
Llay Welfare v Y Fflint
Cyffordd Llandudno v Dinbych
Pencoed Athletic v Pontypridd
Penybont v Trefynwy
Penydarren BGC v STM Sports
Porthmadog v FC Penley
Ton Pentre v Panteg