Warren Gatland
Guto Dafydd yn pwyso a mesur yr ymateb i’r garfan y mae Warren Gatland wedi ei dewis ar gyfer Cwpan y Byd

A yw Warren Gatland wedi cymryd risg wrth benderfynu hepgor Martyn Williams a mynd â dim ond un blaen asgellwr agored i Seland Newydd?

O’r penderfyniadau a wnaeth Warren Gatland gyda’i garfan derfynol ar gyfer y Cwpan Byd ym mis Medi, y dewis i deithio gyda Sam Warburton fel yr unig flaen asgellwr ochr agored arbenigol yw’r un sydd wedi peri mwyaf o syndod.

Ymhlith y rhai sy’n amau doethineb y penderfyniad mae Dafydd Jones, cyn-wythwr a blaen asgellwr gyda’r Scarlets a Chymru.

“Mae’n sioc fod Martyn Williams heb gael y cyfle, a chanlyniad hynny wrth gwrs yw fod dim ond un blaen asgellwr pen agored naturiol yn mynd gyda nhw,” meddai.

 “Dwi’m yn meddwl fod o’n benderfyniad rhy gall. Mae’n safle mor galed i’w chwarae; mae angen rhywun arall wrth law. Os fydd Warburton yn brifo, does neb arall ar gael. Mae’n risg. ”

Golyga’r penderfyniad fod Martyn Williams yn fwy na thebyg wedi chwarae ei gêm olaf yng nghrys coch Cymru pan fu’n gapten yn erbyn yr Ariannin ar ddydd Sadwrn – os na fydd yn cael cyfle i gyflenwi oherwydd anaf i rywun yn y garfan yn ystod yr ymgyrch yn Seland Newydd wrth gwrs. Mae Williams un cap o gyrraedd 100 o ymddangosiadau i Gymru.

Penbleth

Dywedodd Gatland yn ei gynhadledd i’r wasg wedi cyhoeddi’r garfan fod y tîm hyfforddi wedi bod yn trafod am oriau yn hwyr ar nos Sul wrth geisio penderfynu os oeddynt yn mynd i fynd ag 16 neu 17 blaenwr.

Mae’n bosib fod Gatland wedi teimlo nad oedd ganddo ddewis ond mynd â chorff arall i gyflenwi’r cefnwyr gan fod Morgan Stoddart wedi torri ei goes a Lee Byrne wedi bod yn chwarae’n wael ers peth amser.

O ganlyniad, mae Aled Brew yn cael sedd ar yr awyren er mwyn darparu opsiwn arall ar yr asgell, sy’n caniatáu i Leigh Halfpenny symud i safle’r cefnwr, o bosib.

Dywed Gatland am Byrne: “Dydi Lee ddim wedi chwarae ers peth amser ac roedd o wedi’i siomi yn ei berfformiad yn erbyn yr Ariannin ar ddydd Sadwrn. Fe wnaeth ychydig o gamgymeriadau wrth gicio pan roedd cyfle i wrthymosod.” 

O ystyried hynny, fe allai Gatland fod wedi dewis hepgor Byrne o’r garfan a mynd a Martyn Williams yn ei le, ond wedyn byddai Cymru yn mynd i Gwpan y Byd heb gefnwr cydnabyddedig, a byddai hynny’n sicr yn cael ei weld yn risg mawr hefyd.

Mae natur y dasg yn golygu fod gambl fan hyn a fan draw yn anochel. Dyna ran o’r sialens. Does ond 30 safle ar gael, ac felly does dim modd darparu ar gyfer cael cyflenwad o dri chwaraewr sbâr ym mhob safle. Mae’n rhaid dod o hyd i gytbwysedd sy’n gweddu i’r garfan a’u ffordd o chwarae. 

Fel mae pethau, mae Williams yn colli cyfle, ond rhaid ystyried y posibilrwydd na fyddai wedi cael llawer o gyfle i chwarae nawr fod Sam Warburton eisoes yn gapten newydd ar y garfan ac yn cychwyn bron heb gwestiwn.

Mae Warburton bellach yn cael ei ystyried yn un o’r blaen asgellwyr gorau yn hemisffer y gogledd, ond mae’n cyfaddef ei hun fod ganddo record wael gydag anafiadau. Mae wedi derbyn tair llawdriniaeth yn barod, er nad yw ond 22 oed.

Ystyrir grŵp D (yr un mae Cymru ynddo) i fod y caletaf o’r holl grwpiau, ac mae nifer o’r gemau yn sicr o fod yn frwydrau caled. Os gaiff Warburton anaf, yna mae’n debygol mai Dan Lydiate fyddai’n gorfod llenwi’r bwlch.

“Mae Lydiate yn chwaraewr da iawn,” meddai Dafydd Jones, “ond fydd o’n methu gwneud y job i safon Warburton, felly fyddwn ni ar ein colled.”

Gethin Jenkins

Mae nifer wedi codi pryderon am y penderfyniad i gynnwys y prop pen agored, Gethin Jenkins, yn y garfan ac yntau heb chwarae ers mis Ionawr, ac yn dal i adfer o anaf. Does dim sicrwydd y bydd Jenkins yn holliach i wynebu’r Springboc yn y gêm agoriadol ar 11 Medi.

Roedd Gatland ei hun yn hapus i gyfaddef fod hynny yn rywfaint o gambl. Dywedodd fod Jenkins yn chwaraewr o safon uchel iawn, ac os oes modd iddo gael chwarae allan yn Seland Newydd, yna fe ddylai gael bod yn rhan o’r garfan.

“Bydd rhaid aros i weld faint o gyfraniad fydd o’n gallu ei wneud.” yn ôl Dafydd Jones.

Ond mae o’n cytuno gyda Gatland fod o werth y risg. “Mae Gethin yn chwaraewr amryddawn sy’n cyfrannu cryn dipyn i’r tîm,” meddai, “Dydi o heb chwarae llawer, ond os ydyw’n ffit, yna mi fyddwn i eisiau fo yn y tîm.”

Powell neu Delve?

Dywedodd Gatland fod 27 o’r 30 enw wedi’i dewis yn weddol hawdd, ond y penderfyniad am faint o flaenwyr/cefnwyr i fynd gyda nhw oedd yn ddylanwadol wrth benderfynu’r tri safle olaf.

Un o’r tri hynny oedd Andy Powell, wythwr Sale Sharks. Mae’n chwaraewr yn ogystal â chymeriad dadleuol, ond fe gafodd Powell gêm gref yn erbyn yr Ariannin ar ddydd Sadwrn.

Llwyddodd gyda phob un o’i 14 tacl. Wnaeth o ddim rhoi cic cosb i ffwrdd. Wnaeth o ddim colli’r bel yn y dacl o gwbl, ac fe sgoriodd gais.

Yn ôl Dafydd Jones, does dim amau cryfderau Powell. “Mae o’n rhedwr cryf. Does neb yn gallu rhedeg gyda’r bêl mor nerthol ag ef. Mae pawb yn gwybod beth mae’n gallu ei wneud. Mae o hefyd yn ffitio’r bil o ran y math o chwaraewr a’r math o chwarae mae Gatland yn ei hoffi.”

Ond mae Dafydd Jones hefyd yn teimlo ei fod wedi bod yn benderfyniad rhyfedd i gynnwys Gareth Delve yn y carfannau ymarfer rhagarweiniol ac yna i beidio â rhoi unrhyw gyfle iddo yn un o’r gemau paratoi.

“Gatland sydd wedi ei alw o nôl i’r garfan, ond wedyn mae’n od nad ydi o wedi cael cyfle i chwarae. Dwi’m yn deall y penderfyniad yna o gwbl.”

Mae’n benderfyniad rhyfeddach fyth o ystyried fod Gareth Delve wedi ei enwebu’n chwaraewr y tymor i’r Melbourne Rebels yn ei dymor llawn cyntaf yn chwarae rygbi yn Awstralia.

Dwayne Peel

Roedd hefyd amheuon am beidio â chynnwys Dwayne Peel yn y paratoadau ac i fynd a dau chwaraewr ifanc, Tavis Knoyle a Lloyd Williams, sy’n gymharol ddibrofiad yn ei le.

Dywedodd tîm hyfforddi Cymru fod Peel wedi’i ddiystyru oherwydd ei fod wedi’i anafu, ond mae clwb Peel, Sale Sharks, wedi honni ei fod yn holliach.

“Mae beth sydd wedi digwydd i Peel yn siomedig,” meddai Alun Wyn Bevan.

“Dw i ddim yn deall beth sydd wedi digwydd, ond mae yna rywbeth yn mynd ymlaen nad ydyn ni wedi cael gwybod amdano.”

Atega Dafydd Jones y farn honno. “Mae yna rywbeth arall yn fanna dydyn ni ddim yn cael gwybod amdano. Yn sicr dyw’r penderfyniad ddim lawr i sgiliau a doniau Peel yn unig.”

“Dydi Peel prin wedi cael unrhyw gyfle i Gymru drwy gydol cyfnod Gatland, boed ganddo anaf neu beidio, ac mae hynny’n dweud y cyfan dwi’n meddwl.”

Wedi dweud hynny, dydi Dafydd Jones ddim yn eiddigeddus o’r cyfrifoldeb a’r pwysau sydd ar ysgwyddau Gatland. “Fo yw’r un yn y gadair fawr, fel petai, felly rhaid ymddiried yn ei benderfyniadau. Mae llawer o’r garfan yn pigo’i hun i ddweud y gwir. Fyddwn i ddim wedi gwneud llawer yn wahanol.”