Mi fydd Cymru’n herio Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr.

Hon fydd y gêm brawf gyntaf i’r Cymry wedi i’r Cwpan y Byd ddod i ben yn Seland Newydd.

Er bod posibilrwydd y gallai’r gwledydd gwrdd yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd, maen nhw wedi cael eu gwahanu yng nghyfnod y grwpiau, gyda Chymru yn grŵp D ac Awstralia yn grŵp C.

Y tro diwethaf i Gymru groesawu Awstralia i Gaerdydd fis Tachwedd y llynedd fe gawson nhw eu trechu o 25 pwynt i 16. Bydd tîm Warren Gatland yn dyheu am gael cipio tlws James Bevan oddi ar y ‘Wallabies’ o flaen torf gartref.

Bydd y gêm yn dechrau am 2:30yh, ac fe fydd yn digwydd yr un diwrnod y mae clwb pêl-droed Caerdydd yn croesawu Birmingham i’r brifddinas yng nghynghrair y bencampwriaeth.

Ni fydd unrhyw gemau rhyngwladol eraill yn cael eu trefnu ar gyfer yr Hydref hwn oherwydd Cwpan y Byd.