Dywed rheolwr Aberystwyth fod ei chwaraewyr yn llawn hyder wrth edrych ymlaen at herio pencampwyr y gynghrair ym Mangor yfory.

Does fawr o amheuaeth mai’r gêm ar Ffordd Farrar, a fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, fydd gêm fawr y penwythnos yn Uwch gynghrair Cymru. Fe fydd y gic gyntaf am 3.45yh.

Mae Alan Morgan, rheolwr Aberystwyth, yn fodlon gyda dechreuad ei dîm hyd yn hyn y tymor hwn.

Er mai colli oddi cartref yn erbyn Castell-nedd o 4-2 oedd eu hanes ar benwythnos agoriadol yr ymgyrch newydd, dywed Alan Morgan: “Nid ni fydd y tîm olaf i golli yn erbyn Castell-Nedd. Maen nhw wedi gwario llawer iawn yr haf yma. Wedi dweud hynny fe wnaethon ni rhoi her dda iddyn nhw efo deg dyn.”

Yna fe gafwyd buddugoliaeth dda’r wythnos diwethaf wrth iddynt drechu’r Drenewydd o 4-1yn eu gêm gartref gyntaf, ond eto roedd rhaid gwneud hynny gydag un dyn yn llai ar y cae. Derbyniodd Jonathan Evans gerdyn coch wedi 20 munud yn unig.

O ystyried hynny, dywed Morgan ei fod “yn hapus gyda’r ffordd y gwnaethon ni ymosod a’r ymrwymiad a’r penderfyniad ddangosodd y bois, i ennill fel gwnaethom ni wedi mynd lawr i ddeg dyn yn gynnar.” 

Oes pethau i wella arnynt? “Wel, oes… mi fyddai cael 11 dyn ar y cae pan mae’r chwiban olaf yn mynd yn neis! Efallai allwn ni herio’r goreuon wedyn,” meddai.

Cystadleuol

Er bod y ddau glwb yn gydradd ar bwyntiau ac yn awyddus iawn i beidio â cholli tir ar y ceffylau blaen (Castell-nedd), dyw Alan Morgan ddim am or-bwysleisio pwysigrwydd y gêm yn erbyn Bangor. 

“Wneith o’m penderfynu lle fyddwn ni’n gorffen yn y gynghrair. Ond mae hi wastad yn gystadleuol, a gobeithio gallwn ni roi sioe dda ymlaen i’r camerâu. Mae’r pwysau arnyn nhw (Bangor) gan eu bod nhw gartref, ac ar ôl iddynt golli’r penwythnos diwethaf, felly allwn ni fynd yno a chwarae gyda hyder dwi’n meddwl.”

Oes anafiadau neu newidiadau i’r garfan ers yr wythnos diwethaf? “Oes, mae cwpl o’r bechgyn yn dioddef gyda ‘niggles’ a ‘bumps’ bach, ond fyddai ddim yn penderfynu ar y tîm tan fore yfory, felly fyddai’n eu ffonio nhw i weld sut mae pawb heno.”

Mae rheolwr Aberystwyth yn agored wrth drafod strategaeth ei dim ar gyfer y gêm.

“Mae angen canolbwyntio pob eiliad o’r gêm. Maen nhw’n dîm sy’n cael y bêl ymlaen yn sydyn iawn. Dydyn nhw ddim yn chwarae o gwmpas ryw lawer – maen nhw’n uniongyrchol iawn ac yn ceisio darganfod y boi mawr, Les Davies, o hyd – felly mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny a gobeithio gallwn ni eu brifo nhw gyda’n gwrthymosod.”

Cyffrous

Creda Thomas Crockett, cyfarwyddwr cyfryngau clwb pêl droed Aberystwyth y bydd hon yn gêm gyffrous. “Mi fydd yn grêt  i fynd i Fangor dydd Sadwrn. Roedd Alan (Morgan) yn is-reolwr i Nev Powell (rheolwr Bangor) ac wrth gwrs fe fydd hon yn gêm olaf i Aber ar Ffordd Farrar, sy’n bechod i ddweud  y gwir.” 

Mae Siôn England, sy’n gefnogwr selog i Aberystwyth, yn argyhoeddedig mai Castell Nedd fydd y tîm i’w curo’r tymor yma, “ond bydd Aber â gobeithion o orffen yn y chwech uchaf.  Mae Wyn Thomas wedi  setlo fewn ac yn bresenoldeb llafar ar y cae. Mae gan y clwb obeithion mawr am John Marsden hefyd ac mae Lewis Codling wedi cael dechrau gwych i’r tymor.”

Cytuna Thomas Crockett. “Mae gennym ni  garfan gref tymor yma, mae Alan Morgan wedi  bod yn brysur dros yr haf, ond does dim gobaith o gystadlu a chyllideb clybiau fel Castell Nedd, Llanelli a’r Seintiau Newydd.

Y da a’r drwg

Roedd newyddion da a drwg i glwb pêl-droed Aberystwyth yr wythnos hon.

Yn gyntaf, y da. Mae cyn ymosodwr ifanc Tref Aberystwyth, Tom Bradshaw, wedi cael ei alw i garfan dan 21 Cymru gan y rheolwr Brian Flynn ar gyfer eu gêm yn Montenegro ar 6 Medi.

Bu Bradshaw yn ddisgybl yn ysgol Penglais Aberystwyth ac fe arwyddodd i’r Amwythig o Aberystwyth yn 2009.

Croesawa Siôn England y newyddion “Mae Cymru angen rhywun sy’n medru rhoi’r bêl yn y rhwyd.”

Dywed Thomas Crockett ei bod hi’n braf gweld Bradshaw yn llwyddo oherwydd mae Clwb Aberystwyth yn dibynnu gymaint ar eu hacademi bêl-droed i gynhyrchu talent y dyfodol, felly mae’n wych gweld ei fod yn gweithio.

Ar y llaw arall, fe gafodd Geoff Kellaway, asgellwr Aberystwyth, ei arestio yn oriau cynnar dydd Sul, 24 Gorffennaf wedi iddo ymosod ar staff diogelwch clwb nos Pier Pressure yn Aberystwyth.

Roedd Kellaway wedi yfed oddeutu 10 gwydraid o fodca dwbl yn ystod y noson, ac wedi iddo gael gwrthod mynediad i’r clwb fe ddyrnodd un o’r dynion ar y drws.

Plediodd yn euog i’r ymosodiad. Cafodd ei ryddhau’n amodol, ond mae llys yr ynadon wedi gorchymyn iddo dalu £100 mewn iawndal i ac £85 mewn costau.