Dai Young
Mae Dai Young wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen i her newydd ar ôl cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Rygbi newydd y London Wasps.
Bydd cyn-brop rhyngwladol Cymru yn gadael rhanbarth y Gleision er mwyn olynu Tony Hanks gyda’r clwb o Lundain.
Roedd wedi arwain y Gleision i lwyddiannau yng Nghwpan Her Amlin a Chwpan EDF Energy.
Mi lwyddodd y rhanbarth o Gymru i gyrraedd rownd gyn-derfynol y Cwpan Heineken yn ystod ei naw mlynedd wrth y llyw.
“Mae’n gyfle enfawr i mi. Roedden ni wedi mwynhau fy amser yng Nghaerdydd ond rwy’n edrych ‘mlaen i brofiad newydd mewn awyrgylch newydd,” meddai Dai Young.
“Mae ‘na grŵp talentog o chwaraewyr yma ac roedd y cyfle i helpu clwb gwych i gyrraedd yr uchelfannau unwaith eto’n her na alle’n ni wrthod.”