Maria Sharapova
 Tra bod Maria Sharapova yn sefyll allan ymhlith y merched sydd ar ôl yn rowndiau cyn-derfynnol Wimbledon fel yr unig ferch â theitl grand slam, dydi hi ddim yn amau gallu’r un o’i gwrthwynebwyr i fynd â hi yn y twrnament eleni.

Heddiw, bydd Maria Sharapova yn mynd ben-ben â Sabine Lisicki o’r Almaen – cystadleuydd annisgwyl y twrnament – am le yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn.

Bydd y ddwy eisoes yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebydd posib yn y gêm derfynol, gan fod disgwyl i’r gêm gyn-derfynol rhwng Victoria Azarenka a Petra Kvitova ddod i ben cyn iddyn nhw fentro i’r cwrt eu hunain y prynhawn yma.

Yn ôl Maria Sharapova, mae gan y dair gyfle da i fynd â hi eleni, gan eu bod yn awchu am eu grand-slam cyntaf, ac hefyd mae ganddyn nhw ddigon o brofiad o’r twrnament tu cefn iddyn nhw.

“Nid dyma’r tro cyntaf i fi eu gweld nhw yn y twrnament. A dyw hi ddim fel petai nhw yn 15 neu 16 oed chwaith,” meddai Sharapova.

Roedd Sabine Lisicki, sy’n 21, yn rownd yr wyth olaf yn Wimbledon ddwy flynedd yn ôl, cyn iddi ddisgyn yn rhestr detholion y byd tennis wedi anaf i’w phigwrn – felly does neb eto’n sicr beth sydd ganddi i’w gynnig ar y cwrt eleni.

Gallai ad-ennill ei safle yn rhestr y detholion petae’n cael twrnament llwyddiannus eleni, ac mae Maria Sharapova yn cydnabod ei bod hi’n her.

“Mae hi’n taro’n galed iawn,” meddai Maria Sharapova. “Mae’n siwr mai ganddi hi mae un o syrfs anoddaf y twrnament, ac fe fydd hynny o fantais mawr iddi. Mae hi wedi defnyddio’r syrf yn effeithiol iawn ar y cwrt porfa, felly bydd hynny’n her.”

Ac mae Sabine Lisicki ei hun yn swnio’n hyderus. “Does gen i ddim byd i’w golli eleni,” meddai.

“Fi yw’r her annisgwyl yn y twrnament eleni. Dw i yma yn y rownd gyn-derfynol. Dw i’n mynd i fynd allan yno a rhoi ’ngorau glas.”