Tim Howard
 Mae golwr Everton wedi ymddiheuro am regi ar deledu ar ôl i’r Unol Daleithiau golli yn erbyn Mecsico yn rownd derfynol y Cwpan Aur dros y penwythnos. 

 Roedd Tim Howard yn anhapus bod y seremoni wobrwyo wedi ei chynnal yn yr iaith Sbaeneg er i’r gêm gael ei chwarae yng Nghaliffornia. 

 Dywedodd y golwr, sy’n dioddef o syndrom Tourette’s, ei fod yn anghywir i regi ond ei fod yn parhau i anghytuno gyda threfn y seremoni. 

 “Rwyf am ymddiheuro am regi.  Rwy’n dad i blant ifanc ac nid wyf yn credu bod rhegi yn briodol wrth siarad yn gyhoeddus,” meddai Tim Howard. 

 “Ond mewn unrhyw gêm ryngwladol gyda seremonïau i’w dilyn, rydych chi’n gobeithio bod y trefnwyr yn gwneud yn siŵr bod iaith gyntaf y timau sy’n cymryd rhan yn cael ei ddefnyddio er mwyn bod pawb yn deall beth sy’n cael ei ddweud.

 “Yn fy marn i, mae methu a gwneud hynny’n amharchus i’r chwaraewyr yn enwedig pan mae’n cymryd lle ar dir eich hunain.”