Mae’r Cynghrair Celtaidd wedi cyhoeddi mae cwmni bancio RaboDirect fydd yn noddi’r gystadleuaeth y tymor nesaf.

Bydd y gystadleuaeth a oedd yn arfer cael ei alw yn ‘Cynghrair Magners’ yn cael ei enwi’n RaboDirect PRO12.

Bydd y cwmni bancio yn noddi’r gystadleuaeth sy’n cynnwys timau o Gymru, yr Alban, Iwerddon a’r Eidal dros y pedair blynedd nesaf.

“R’yn ni wrth ein bodd cael croesawu RaboDirect yn noddwyr newydd i gynghrair PRO12,” meddai prif weithredwr y gystadleuaeth, John Feehan.

Yn ôl John Feehan bydd cefnogaeth y cwmni bancio yn helpu i godi proffil a chynyddu’r buddsoddiad yn y gystadleuaeth.