Scott Johnson
Mae cyfarwyddwr hyfforddi’r Gweilch, Scott Johnson, wedi  dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr her sy’n wynebu’r rhanbarth yng Nghwpan Heineken.

Ddoe cafodd y grwpiau ar gyfer y tymor nesaf eu cyhoeddi.

Mae’r rhanbarth o Gymru wedi eu gosod mewn grŵp cystadleuol gyda’r Saraseniaid, Biarritz a Treviso.

“Mae’r Cwpan Heineken yn creu gemau diddorol bob blwyddyn ac nid yw’n wahanol eleni,” meddai Scott Johnson.

“R’yn ni’n wynebu timau da iawn ac yn edrych ymlaen at yr her. R’yn ni’n ymwybodol o safon y timau eraill.

“Roedden ni wedi gwthio Biarritz i’r eithaf yn San Sebastian y llynedd a bu bron i ni ennill.

“Mae’r Saraseniaid wedi ennill yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn perfformiad dewr yn erbyn Caerlŷr.

“Mae gan Treviso record ardderchog gartref ac wedi dysgu gwersi i sawl dîm da, ac r’yn ni’n sylweddoli ei fod yn mynd i fod yn anodd yno.

“Fe fydd pob un o’r timau yn y grŵp yma yn cystadlu am frig y tabl.”