Dai Greene
Mae pennaeth Athletau’r Deyrnas Unedig wedi dweud fod cymeriad “pwyllog a synhwyrol” Dai Greene yn ei wneud yn gapten delfrydol.

Mae’r Cymro wedi ei ddewis i arwain carfan Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Sweden y mis yma.

“Mae Dai yn berson cyfrifol a synhwyrol iawn ac mae ganddo lawer o synnwyr cyffredin,” meddai Charles van Commenee.

“Mae’n un o’n hathletwyr gorau ni ar hyn o bryd. Fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae’n gweithredu yn y rôl ac fe fydda i’n edrych i weld os mai ef yw’r person cywir i arwain y garfan yn y dyfodol hefyd.”

Bydd Dai Greene yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth 400m dros y clwydi yn Stockholm.