Nigel Davies, hyfforddwr y Scarlets
Bydd y Scarlets yn wynebu her sylweddol yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf ar ôl i’r grwpiau gael eu cyhoeddi heddiw.

Bydd tîm Nigel Davies yn wynebu Munster, Northampton a Castres ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.

Munster yw pencampwyr Cynghrair Magners eleni tra bod Northampton wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth y tymor yma.

Mae’r Gweilch wedi eu gosod mewn grŵp cystadleuol hefyd gyda Biarritz, y Saraseniaid a Treviso yn yr un grŵp.

Y Gleision sydd wedi cael y grŵp hawsaf o’r tri rhanbarth o Gymru – mae’n nhw’n rhannu grŵp â Gwyddelod Llundain, Caeredin a Racing Metro yn eu grŵp.

Grwpiau Cwpan Heineken 2011/12

Grŵp 1-  Scarlets, Munster, Northampton, Castres

Grŵp 2- Gleision, Gwyddelod Llundain, Caeredin, Racing Metro

Grŵp 3- Leinster, Caerfaddon, Glasgow, Montpellier

Grŵp 4- Caerlŷr, Clermont Auvergne, Ulster, Aironi

Grŵp 5- Biarritz, Gweilch, Saraseniaid, Treviso

Grŵp 6- Toulouse, Harlequins, Caerloyw, Connacht