Gatland - ei wraig yn helpu da'r gwaith
Mae cefnogwyr rygbi yn Seland Newydd yn cynnig llety am ddim i gefnogwyr rygbi o Gymru yn ystod Cwpan y Byd yn yr hydref.

Mae’r prosiect wedi cael ei lansio gan grŵp o gefnogwyr yn ardal Hamilton lle mae cartref teuluol hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Mae’r dyn busnes o Hamilton, Basil Lennan yn arwain y prosiect gyda chefnogaeth lawn ei ffrind ysgol Warren Gatland. Mae gwraig hyfforddwr Cymru, Trudi Gatland yn helpu gyda’r gwaith trefnu.

Mae dros 50 o deuluoedd eisoes wedi cytuno i gynnig llety dros nos i gefnogwyr o Gymru.  Bydd Cymru’n wynebu Samoa a Fiji yn Stadiwm Waikato yn Hamilton  yn ystod y gystadleuaeth ac fe fydd cyfle i gefnogwyr aros yng nghartrefi lleol am hyd at bedair noswaith.

“Fe ddaeth y syniad o’r awydd i ddangos i gefnogwyr Cymru’r croeso gorau sydd gan rygbi Waikato i gynnig,” meddai Basil Lennan.

“Y syniad yw na fydd unrhyw arian yn cael ei gyfnewid ond bod pobl yn creu perthnasau ac atgofion o ganlyniad i Gwpan Rygbi’r Byd.

“Mae nifer ohonom ni wedi teithio a derbyn croeso ardderchog yn y gorffennol ac mae’n gyfle i ni roi rhywbeth ‘nôl yn ogystal â chael amser gwych.”

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, wedi croesawu’r syniad gan ddweud ei fod yn dangos y perthynas da sydd rhwng y ddwy wlad.

“Rwy’n gwybod bydd cefnogwyr Cymru yn cael amser gwych yn Seland Newydd ac fe fydd y prosiect yma’n helpu gwneud y profiad yn fwy pleserus,” meddai Roger Lewis.

“Mae’n gynnig rhyfeddol ac yn dangos y parch sydd i gefnogwyr o Gymru i ble bynnag maen nhw’n teithio i gefnogi’r tîm cenedlaethol.”