Gavin Henson
Mae canolwr Cymru, Gavin Henson, wedi cyfadde bod cyfleoedd yn mynd yn brin wrth iddo baratoi i ddychwelyd i’r llwyfan rhyngwladol ddydd Sadwrn
Bydd Henson yn dechrau i Gymru yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm yfory wrth iddo geisio gwthio ei hun mewn i garfan Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae’r chwaraewr dadleuol yn dweud y bydd gwisgo’r crys coch fel ennill ei gap cynta’ unwaith eto.
‘Gwych bod yn ôl’
“Mae’n wych i fod ‘nôl. Dw i wrth fy modd i gael y cyfle – dw i wedi gweld eisiau chwarae i Gymru,” meddai Gavin Henson.
Mae yna feirniadaeth wedi bod ynglŷn â’r penderfyniad i’w gynnwys yn y tîm, yn enwedig ar ôl iddo gael ei wrthod gan glwb Toulon ar ôl cael cyfle yno.
Ond mae yna eraill, fel cyn-faswr Cymru Phil Bennett, sy’n dadlau bod rhaid rhoi cyfle iddo, oherwydd y sbarc ychwanegol y mae’n gallu’i gynnig.
Ac mae Henson ei hun yn dweud bod seibiant o’r gêm wedi gwneud lles iddo.
‘Wedi adfywio’
“Dw i’n teimlo fy mod i wedi adfywio’n feddyliol. Fe fydden ni’n hoffi gallu dod mewn i’r gêm yma ar gefn chwarae ugain gêm ond dyw hynny ddim wedi digwydd.
“Ond mae gyda fi gyfle ac fe fydda’ i’n gwneud popeth ddydd Sadwrn i geisio sicrhau fy mod i’n chwarae yn y gêmau prawf ym mis Awst ac yna edrych ymlaen tuag at Gwpan y Byd.
“Ar hyn o bryd, Cymru yw’r peth mwyaf pwysig i mi. Dw i erioed wedi chwarae mewn Cwpan y Byd a dyma fy unig gyfle i wneud yn iawn am hynny.
“Ond mae gyda fi lot i’w wneud. Dw i ddim yn ddewis cyntaf ar hyn o bryd ac mae hynny’n ddigon teg.”
18 mis o fwlch
Dyw Gavin Henson ddim wedi chwarae dros Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2009, a dim ond dros y Nadolig yr ailddechreuodd chwarae ar y safon ucha’.
Er gwaethaf ei absenoldeb 18 mis o’r gêm, mae Henson yn credu iddo wneud y penderfyniad cywir.
“Dw i’n teimlo’n llawer gwell. Doeddwn i ddim yn gallu cario ymlaen cyn hynny,” meddai Henson. “Ond mae’r awch wedi dychwelyd ac mae angen hynny arnoch wrth chwarae rygbi.”