Hunangofiant Dafydd Jones
Fe fydd pymtheg o feirdd ym Mharc y Scarlets heno, gan ddechrau traddodiad newydd yn y clwb.
Mae noson Ar y Fainc yn cael ei threfnu i gefnogi blwyddyn dysteb y blaen-asgellwr rhyngwladol, Dafydd Jones, sydd wedi rhoi’r gorau i chwarae rygbi oherwydd anaf.
Y tymor nesaf mae disgwyl i gerddi gael eu cyhoeddi yn rhaglen y Scarlets yn rhan o Gornel y Beirdd.
“Mae’n siwr mai noson Ar y Fainc fydd y casgliad mwya’ o brifeirdd y tu fas i’r Eisteddfod sydd wedi bod ers sbel fawr,” meddai cyd-drefnydd y noson, y bardd Aneirin Karadog.
“Mae hefyd yn cysylltu gyda’n traddodiad barddol o gyfarch ein harwyr – y tro ’ma un o arwyr y maes rygbi fydd yn derbyn y clod.”
Y pymtheg sydd wedi derbyn y gwahoddiad i’r noson yw T James Jones, Tudur Dylan, Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds, Mererid Hopwood, Emyr Lewis, Robat Powell, Hywel Griffiths, Tudur Hallam, Karen Owen, Eurig Salisbury, Emyr Davies, Rhys Iorwerth, Osian Rhys Jones ac Aneirin Karadog.
Mae naw ohonyn nhw yn brifeirdd ac mae ganddyn nhw 16 cadair neu goron rhyngddyn nhw. Un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, Nigel Owens, fydd yn ceisio cadw trefn ar y beirdd.
Bydd Dafydd Jones yn arwyddo copiau o’i lyfr newydd ar stondin Golwg rhwng 11.00 a 11.30 fory.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin