Alun Wyn Jones
Mae tîm rygbi’r Gweilch wedi cefnogi ymgais Clwb Pêl-droed Abertawe i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Llun.
Fe fydd yr Elyrch yn wynebu Reading yn Stadiwm Wembley yn Llundain yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Cyn y gêm mae tîm rygbi rhanbarthol y Gweilch, sydd yn rhannu Stadiwm Liberty Abertawe â’r Elyrch, wedi anfon eu dymuniadau gorau.
“Mae Abertawe yn ddinas sydd wrth ei bodd â chwaraeon,” meddai cyfarwyddwr y Gweilch, Roger Blyth.
“Byddai cael tîm sydd yn Uwch Gynghrair Cymru, a thîm rygbi gorau Cymru, yn chwarae yn yr un stadiwm yn gwneud trigolion y ddinas yn fodlon iawn eu byd.
“Fe fydd yn newyddion gwych i’r gymuned gyfan, sy’n cymryd balchder mawr yn llwyddiant ein timoedd.
“Mae pawb yn y Gweilch 100% y tu ôl i’r Elyrch ac fe fyddwn ni i gyd yn cefnogi’r wythnos nesaf.”
Dywedodd capten y Gweilch, Alun Wyn Jones, y byddai “wrth ei fodd yn gweld y Gweilch yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr”.
“Mae’n rhan fwyaf o’r sgwad yn hogiau lleol, ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw llwyddiant ar y cae chwarae i bobol y ddinas.”
Ddoe cyhoeddodd Abertawe eu bod nhw wedi gwerthu bob un o’u tocynnau ar gyfer y gêm yn Stadiwm Liberty.
Mae disgwyl y bydd mwy na 40,000 o’r Jacs yn teithio i Lundain ar gyfer “y gêm fwyaf yn hanes y clwb”.