Bathodyn y Crusaders
Mae’r prop Ryan O’Hara wedi dweud bod y Crusaders eisiau ail danio eu tymor gyda buddugoliaeth yn erbyn y Leeds Rhinos yng Nghwpan Her Carnegie ddydd Sadwrn.
Fe fydd y clwb o Gymru yn teithio i Headingley am yr ail dro mewn pythefnos ar ôl colli 34-16 yn erbyn Leeds yr wythnos diwethaf.
Mae tîm Iestyn Harris wedi cael dechrau siomedig i’r tymor ac wedi colli eu dwy gêm ddiweddaraf, gan gynnwys colli 16-48 yn erbyn Wigan Warriors dros y penwythnos.
“Roedd y gêm yn erbyn Wigan yn siomedig. Roedden nhw wedi dangos mai nhw yw’r tîm i’w guro,” meddai Ryan O’Hara.
“Camgymeriadau bach a chiciau cosb oedd wedi colli’r gêm i ni unwaith eto. Ond rwy’n edrych ymlaen at y Cwpan Her. Roedden ni wedi cael cyfle da i fynd ymhell llynedd cyn colli yn erbyn y Catalan Dragons yn eiliadau olaf y bumed rownd.
“Fe fydd Leeds yn her anodd i ni. Ond gall unrhyw beth digwydd mewn gemau Cwpan.
“Gallwn ni anghofio am y gynghrair am wythnos ac os ydyn ni’n gwneud llai o gamgymeriadau fe fydd gennym ni gyfle.”
Dywedodd Ryan O’Hara nad oedd yn deall pam fod dechrau’r tymor wedi bod yn un mor siomedig i’r Crusaders.
“R’yn ni’n gweithio’n galed bob wythnos wrth ymarfer. Efallai nad ydi rhai o’r chwaraewyr yn canolbwyntio.”