Gavin Henson
Mae’n ymddangos mai dydd Llun y bydd Gavin Henson yn cael gwybod a oes ganddo ddyfodol yn Toulon ai peidio.
Mae pythefnos wedi mynd heibio ers i’r chwaraewr rhyngwladol o Gymru gael ei wahardd am wythnos gan y clwb yn dilyn honiad o ymladd gyda’i gyd-chwaraewyr ar ôl helpu ei glwb newydd guro Toulouse ym Marseille.
Roedd disgwyl y byddai penderfyniad wedi cael ei wneud yn gynharach yr wythnos yma ac y byddai wedi cael gwybod heddiw. Mae ei gytundeb presennol gyda Toulon yn dod i ben ddiwedd y tymor yma.
“Un o’r rhesymau pam fod y penderfyniad wedi cael ei ohirio tan ddydd Llun yw nad ydyn ni byth wedi cael y stori’n llawn,” meddai Tom Whitford, rheolwr tîm Toulon.
“Mewn mater fel hyn, fe all un person ddweud un peth a rhywun arall ddweud rhywbeth arall. Rydyn ni’n benderfynol o ddarganfod yn union beth ddigwyddodd.
“Dyw hi ddim yr un fath ag yng Nghymru neu Loegr lle mae modd sacio rhywun yn y fan a’r lle.”
Cyfarfod
Fe fydd Gavin Henson yn cyfarfod Mourad Boudjellal, perchennog y clwb a Philippe Saint-Andre, y prif hyfforddwr ddydd Llun.
Ychwanegodd Tom Whitford nad oes dim wedi ei benderfynu eto, ond na fydd Gavin Henson yn hyfforddi gyda’r sgwad hyd nes y bydd canlyniad y cyfarfod dydd Llun yn hysbys.
Mae disgwyl hefyd y bydd Gavin Henson yn cyfarfod Warren Gatland, hyfforddwr Cymru, yn fuan i drafod yr helynt.