Mae merched ysgolion cynradd ar draws Caerdydd wrthi’n paratoi i ffurfio dau dîm criced newydd ar ôl cael hyfforddiant gyda Chlwb Criced Morgannwg.
Mae 28 o ddisgyblion o ysgolion gynradd Kitchener, Llys-faen, Bryn Deri, Eglwys Newydd, Melin Gruffydd, Thornhill a Rhiwbeina wedi’u dewis gan eu hathrawon chwaraeon i ymuno â rhaglen ‘Criced yn y Gymuned’ Morgannwg.
Ers mis Chwefror, maen nhw wedi bod yn mynychu sesiynau hyfforddi wythnosol yn y Ganolfan Griced Cenedlaethol, yn ogystal â chael hyfforddiant yn yr ysgol ac mewn clybiau ar ôl ysgol.
Bydd y merched nawr yn ymuno â Chlybiau Criced Llys-faen a Chaerdydd ac yn cystadlu fel timau merched-yn-unig yng Nghynghrair Dan 11 Caerdydd a’r Fro am y tro cyntaf.
‘Cyfleoedd’
“Mae’r bartneriaeth rhwng Chwaraeon Caerdydd a Chlwb Criced Morgannwg yn golygu bod merched ysgol gynradd yn cael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn criced a datblygu eu talentau,” meddai’r Aelod Gweithredol dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Y Cynghorydd Freda Salway.
“Mae athrawon chwaraeon wedi llwyddo i ysbrydoli’r merched hyn yn gynnar iawn, fel y gallant fynd ymlaen i fanteisio ar y ddarpariaeth hyfforddiant gwych sydd ar gael yng Nghlwb Criced Morgannwg ac ennill sgiliau amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.”
Partneriaeth ar y cyd yw’r rhaglen rhwng Criced Morgannwg a Chwaraeon Caerdydd a’i nod ar sicrhau mwy o gyfleoedd i ferched chwarae criced.