Mae clwb pêl-droed Dinas Bangor yn rhybuddio cefnogwyr i gyrraedd yn ddigon cynnar i’r gêm fawr yn erbyn y Seintiau Newydd yfory.
Er mai am 3.30 y bydd y gêm yn cychwyn, fe all y giatiau gau cyn hynny.
Mae’r clwb yn ymddiheuro i gefnogwyr na fydd mwy na 1762 yn cael mynd i mewn i’r cae – ac yn esbonio mai rheolau iechyd a diogelwch sy’n gyfrifol.
“Mae’n ddrwg bod y niferoedd yn sylweddol is na’r hyn y byddai llawer o gefnogwyr wedi ei hoffi, ond does gan y Clwb ddim dewis ond cydymffurfio â’r rheoliadau,” meddai llefarydd ar ran y clwb.
“Mae’n bwysig iawn, felly, bod cefnogwyr yn cyrraedd yn gynnar yfory i sicrhau eu bod nhw’n gallu mynd i’r cae i weld y gêm.
“Unwaith y bydd yr uchafswm o wedi ei gyrraedd, mi fydd y giatau’n cau a fydd neb arall yn cael eu gadael i mewn.”
Ychwanegodd y bydd y giatiau’n agor o 11.30 y bore ymlaen.
Dim ond 104 o docynnau sydd wedi cael eu neilltuo ar gyfer cefnogwyr y Seintiau Newydd, ac mae eu clwb yn pwyso arnyn nhw i gofrestru ar unwaith ar gyfer y bysiau sy’n eu cludo nhw yno er mwyn sicrhau mynediad.
Gêm dyngedfennol
Fe fydd y gêm yn un dyngedfennol ar ôl buddugoliaeth ddramatig Bangor yn erbyn Castell Nedd ddydd Llun.
Roedd disgwyl y byddai’r Seintiau Newydd wedi cipio pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru adref yn erbyn Llanelli yr un diwrnod, gan fod Bangor yn wynebu gêm anodd.
Er i’r Seintiau drechu Llanelli 3-1, llwyddodd Bangor hefyd i guro Castell Nedd o 2 gôl i 1, gan ddod â’r bencampwriaeth o fewn eu cyrraedd hwythau hefyd.
Ond fe fydd yn rhaid i Fangor ennill y gêm yfory, tra bydd gêm gyfartal yn ddigon i’r Seintiau ar Ffordd Ffarar.
Fe fydd y gêm fawr yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C, y rhaglen i ddechrau am 3:00.