Mae’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio gallu sefydlu tîm saith bob ochr Prydeinig erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae undebau rygbi’r gwledydd cartref yn trafod creu tîm i gynrychioli Prydain yn Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro.

Dywedodd prif weithredwr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, Mike Miller, mae’r undebau rygbi fydd yn penderfynu sut siâp fydd ar y tîm.

“Does dim yr un gwrthwynebiad i sefydlu tîm Prydeinig o fewn rygbi,” meddai Mike Miller.

“Mae tîm y Llewod eisoes yn bodoli ac felly maen nhw’n gyfarwydd â chwarae gyda’i gilydd.

“R’yn ni wedi dweud wrth yr undebau mai eu penderfyniad nhw fydd sut i weithredu.. Os yw eu cynnig nhw yn deg, fe fyddwn ni’n hapus.

“Maen nhw wedi bod yn trafod sawl opsiwn gwahanol, gan gynnwys un wlad yn cynrychioli’r tîm, pob gwlad yn darparu 25% o’r chwaraewyr yn y sgwad, neu ddewis y chwaraewyr gorau beth bynnag yw eu cenedligrwydd.

“R’yn ni’n gobeithio datrys hyn erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r undebau yn cydweithio’n dda.”