George North
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi bod 21 o’u chwaraewyr wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r rhanbarth.

Mae rhai o chwaraewyr rhyngwladol Cymru ar y rhestr, gan gynnwys yr asgellwyr Morgan Stoddart a George North, y blaenasgellwyr Josh Turnbull a Rob McCusker, yr wythwr Ben Morgan, y mewnwr Tavis Knoyle a’r maswr Rhys Priestland.

“Roedd yn hanfodol bwysig i ni gadw grŵp cryf o chwaraewyr ym Mharc y Scarlets ac mae’n addo’n dda i ni ar gyfer y tymor nesaf,” meddai Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets.

“R’yn ni’n hynod o falch ein bod ni wedi llwyddo i gadw cynifer o chwaraewyr yma. Mae pob un ohonynt yn ymrwymedig i’n steil o chwarae, ein hunaniaeth a’n hetifeddiaeth.

“Daw hyn deuddydd ar ôl i ni chwarae tîm yn llawn sêr rhyngwladol yn erbyn Treviso.

“Mae ein ffydd yn ein chwaraewyr ifanc wedi talu ar ei ganfed.”

Dyma’r rhestr o chwaraewyr sydd wedi cytuno i aros gyda’r Scarlets:

• Aaron Shingler
• Ben Morgan
• Damian Welch
• Dan Newton
• Emyr Phillips
• Morgan Stoddart
• Peter Edwards
• Phil John
• Dale Ford (cytundeb datblygu)
• Gareth Maule
• Johnathan Edwards
• Kirby Myhill (cytundeb datblygu)
• Scott Williams
• Rob McCusker
• Tavis Knoyle
• Aled Davies
• George North
• Jordan Williams (cytundeb datblygu)
• Josh Turnbull
• Rhodri Jones (cytundeb datblygu)
• Rhys Priestland