Leigh Halfpenny
Mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Leigh Halfpenny, Bradley Davies a Chris Czekaj wedi ymestyn eu cytundebau gyda’r Gleision.
Daw’r newyddion ar ôl i Sam Warburton a Tom James arwyddo cytundebau newydd gyda’r rhanbarth.
Fe chwaraeodd Halfpenny i’r Gleision am y tro cyntaf yn 2008 cyn mynd yn ei flaen i ennill ei gap gyntaf dros Gymru yn yr un flwyddyn.
Fe gafodd yr asgellwr ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar y daith i Dde Affrica yn 2009.
“Rwyf wrth fy modd yn cael ymestyn fy amser gyda’r Gleision. Mae’n glwb gwych a does gen i ddim amheuaeth fy mod i am aros,” meddai Halfpenny.
“Dw i ddim wedi cael fy nhemtio i chwarae unrhyw le arall. Mae’r Gleision yn glwb uchelgeisiol iawn sydd â dyfodol disglair.”
Mae Bradley Davies wedi ymddangos 70 o weithiau dros y Gleision, a hefyd wedi chwarae’n gyson dros Gymru ers ennill ei gap gyntaf yn 2009.
“Mae’n wych cael cytundeb newydd, nid yn unig i mi yn bersonol, ond i weddill y bois sydd wedi arwyddo hefyd,” meddai Bradley Davies.
“Dw i’n credu bod ein system academi yn dangos ei werth nawr. Mae nifer o’r bois wedi mynd ymlaen i chwarae yn y Cwpan Heineken ac ar y lefel rhyngwladol.”
Mae Chris Czekaj wedi chwarae i’r Gleision ers chwe blynedd fe fydd yn gwneud ei 100fed ymddangosiad yn erbyn y Gweilch y penwythnos yma.
“Dw i wedi mwynhau symud o’r asgell i safle’r cefnwr y tymor hwn, ac mae’n well gen i chwarae yno erbyn hyn,” meddai Chris Czekaj.
“Rwy’n cael llawer mwy o’r bêl ac yn cael mwy o gyfle i gicio. Mae yna hefyd rhagor o gyfleoedd i ymosod o safle’r cefnwr.”