Warren Gatland - cyfle i chwaraewyr newydd (Llun Cynulliad Cenedlaethol CCA2.0)
Mae hyfforddwr Cymru wedi addo y bydd chwaraewyr ifanc, newydd, yn cael cyfle yng ngêmau mawr yr hydref.
Fe gafodd pump chwaraewr di-gap eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y gyfres, ynghyd â chwech oedd wedi chwarae’r tro cynta’ ar daith yr haf hwn.
Yn eu plith, mae rhai fel yr asgellwr Steffan Evans o’r Scarlets sydd wedi cael cefnogaeth fawr gan sylwebwyr a chefnogwyr.
‘Llawn cyffro’
“Dw i’n llawn cyffro am y sgwad yma wrth i ni ddechrau ar gyfnod o ddwy flynedd cyn Cwpan Rygbi’r Byd 2019,” meddai’r hyfforddwr, Warren Gatland.
“Fe fydd yr hydref hwn yn wahanol iawn i 12 mis yn ôl pan oedden ni’n canolbwyntio ar ein safle yn rhestr y byd.
Y pump chwaraewr di-gap yw Leon Brown ac Elliot Dee o’r Dreigiau, Sam Cross ac Owen Watkin o’r Gweilch a Hadleigh Parkes o’r Scarlets.
Rhys Webb i mewn
Mae Rhys Webb ymhlith y mewnwyr sydd wedi eu henwi, er gwaetha’r dadlau am ei fwriad i symud i chwarae i Loegr.
Fe fydd peth o’r dadlau mwya’ am leoedd ymhlith y pump ôl, lle mae chwaraewyr ifanc fel Steffan Evans a Hallam Amos yn pwyso am le … a hynny yn absenoldeb yr asgellwr mawr George North.
Mae’r capten arferol, Sam Warburton, hefyd wedi anafu ac Alun Wyn Jones fydd yn arwain y garfan.
Y garfan
Dyma’r garfan gyfan.
Blaenwyr – 20 ohonyn nhw
Robe Evans (Scarlets), Wyn Jones (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Leon Brown (Dreigiau) Tomas Francis (Exeter Chiefs), Samson Lee (Scarlets), Kristian Dacey (Gleision0, Elliot Dee (Dreigiau), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Seb Davies (Gleision), Cory Hill (Dreigiau), Alun Wyn Jones (Gweilch), Sam Cross (Gweilch), Talupe Faletau (Bath), Dan Lydiate (Gweilch), Josh Navidi (Gleision)
Olwyr – 9 i gyd
Jonathan Davies (Scarlets), Tyler Morgan (Dreigiau), Hadleigh Parkes (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Steffan Evans (Scarlets), Leigh Halfpenny (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).
Haneri – 7
Gareth Davies (Scarlets), Aled Davies (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Patchell (Scarlets), Rhys Priestland (Bath), Owen Williams (Gloucester)