Toulouse 15–17 Gleision

Parhau mae dechreu da’r Gleision yng Nghwpan Her Ewrop wedi iddynt drechu Toulouse yn y Stade Ernest Wallon nos Wener.

Macauley Cook a sgoriodd y cais holl bwysig wrth i’r Gleision ennill eu hail gêm mewn wythnos yng ngrŵp 2.

Rhoddodd cic gosb Romain Ntamack Toulouse ar y blaen cyn i’r Gleision daro nôl gyda chais i Nick Williams wedi sgarmes symudol.

Llwyddodd Jarrod Evans gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn mantais ei dîm i saith pwynt.

Y tîm cartref a orffennodd yr hanner gryfaf serch hynny gyda cheisiau Romain Ntamack ac Antoine Dupont yn eu rhoi bum pwynt ar y blaen wrth droi.

Roedd y Gleision yn gyfartal wedi deg munud o’r ail hanner pan groesodd Cook yn dilyn gwaith creu Evans a Dillon Lewis.

Rhoddodd trosiad Evans yr ymwelwyr ddau bwynt ar y blaen ac er bod hanner awr i fynd, felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r Gleision bum pwynt yn glir o’r gweddill ar frig grŵp 2 wedi dwy gêm.

.

Toulouse

Ceisiau: Romain Ntamack 27’, Antoine Dupont 35’

Trosiad: Romain Ntamack 28’

Cic Gosb: Romain Ntamack 11’

Cerdyn Melyn: Rynhardt Elstadt 66’

.

Gleision

Ceisiau: Nick Williams 15’, Macauley Cook 51’

Trosiadau: Jarrod Evans 15’, 51’

Cic Gosb: Jarrod Evans 21’

Cardiau Melyn: Alex Cuthbert 30’, Steve Shingler 66’